Lansio gwefan Bwyd Sir Gâr Food
149 diwrnod yn ôl
Heddiw, caiff gwefan Bwyd Sir Gâr Food ei lansio – llwyfan newydd a fydd yn helpu i rannu gwaith gwych partneriaeth fwyd Sir Gaerfyrddin. Mae sianeli cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu lansio yn ogystal â brand newydd sbon.
Bwyd Sir Gâr Food yw partneriaeth fwyd lleol Sir Gaerfyrddin a’i nod yw datblygu system fwyd lewyrchus, gynaliadwy, gynhwysol a gwydn ledled y sir. Mae partneriaethau bwyd yn dod â phartneriaid o amrywiaeth o wahanol sectorau at ei gilydd i helpu i fynd i’r afael ag ystod eang o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan ymdrechu i sicrhau bwyd da i bawb. Mae Bwyd Sir Gâr Food hefyd yn aelod o'r rhwydwaith Lleoedd Bwyd Cynaliadwy a dyfarnwyd statws efydd i’r bartneriaeth llynedd.
Ymhlith y partneriaid allweddol yn Sir Gaerfyrddin y mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CAVS), Rhwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin, Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Synnwyr Bwyd Cymru a Chastell Howell.
Bydd y wefan newydd yn rhannu gwybodaeth am y bartneriaeth – beth mae’n ei gwneud, pwy sy’n cymryd rhan a’r prosiectau bwyd niferus y mae’n helpu i’w cyflawni a’u cefnogi yn Sir Gaerfyrddin. Bydd y sianeli cyfryngau cymdeithasol yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac mae brand newydd hefyd wedi’i ddatblygu sy’n dynodi gwreiddiau’r sir ac yn cynrychioli twf, tirwedd, treftadaeth a chwedloniaeth.
Augusta Lewis, Cydlynydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin:
Rydym yn falch iawn o fod yn lansio ein gwefan heddiw.
Mae bwyd yn thema drawsbynciol sy’n dylanwadu ar iechyd a llesiant cymunedol, yr economi leol, a’r amgylchedd. Mae defnyddio dull ‘system gyfan’ aml-sector wedi’n galluogi i ddod yn fwy na’n cydrannau unigol, ac i weithio ar y cyd ar gyfer y nod cyffredin o sicrhau system fwyd leol gynaliadwy, gynhwysol, wydn ac amrywiol sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym wedi datblygu prosiectau yn seiliedig ar yr hyn y mae cymunedau Sir Gaerfyrddin wedi dweud wrthym y mae ei eisiau a’i angen, ac rydym wrth ein bodd bod ein hymdrechion wedi cael eu cydnabod yn y gorffennol wrth i ni ennill ein gwbor efydd. Rydym ‘nawr yn awyddus i adeiladu ar y gwaith sylfaenol hwn, gan ymgysylltu ymhellach â chymunedau, busnesau, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, i greu system fwyd ffyniannus, amrywiol, iach a gwydn ar gyfer y sir. Byddwch yn gallu darganfod mwy – gan hefyd ddilyn ein cynnydd - ar ein gwefan newydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol.”
Mae effaith Bwyd Sir Gâr Food yn ymestyn ar draws y sir ac mae prosiectau a mentrau diweddar wedi cynnwys:
- Gweithredu rhaglen beilot sy'n archwilio caffael cyhoeddus lleol a chynaliadwy
- Datblygu prosiect cymunedol drwy Rwydwaith Bwyd Sir Gaerfyrddin
- Datblygu prosiect Prydau Ysgol gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru
- Gweithio gyda Synnwyr Bwyd Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol trwy brosiect Llysiau Cymru mewn Ysgolion
- Gweithio'n agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i helpu i lunio Strategaeth Fwyd ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
- Bod yn rhan o Gylch Peiriannau a ddatblygwyd ac a ddarperir gan Social Farms & Gardens a fydd yn galluogi tyfwyr ar raddfa fach i fenthyg peiriannau i'w defnyddio ar eu tir yn Sir Gaerfyrddin
Mae’r wefan a’r gwaith cyfathrebu ehangach wedi’u hariannu fel rhan o Brosiect Datblygu Systemau Bwyd – menter sy’n anelu at ddatblygu system fwyd leol ffyniannus, gynaliadwy a chynhwysol.
Gan adeiladu ar ei waith presennol, nod Prosiect Datblygu System Fwyd Bwyd Sir Gâr yw gwella’r system fwyd leol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac mae’n canolbwyntio ar:
- Cysylltu Cymunedau a Mynediad Cymunedol i Fwyd Iach
- Datblygu safle cynhyrchu ffrwythau a llysiau cynaliadwy ar raddfa cae yn Fferm Bremenda Isaf yn Llanarthne
- Cyfathrebu: Adeiladu ‘Mudiad Bwyd Da’
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd
Mae’n wych gweld gwefan Bwyd Sir Gâr yn cael ei lansio heddiw. Mae’r bartneriaeth yn arwain ar rai prosiectau bwyd gwirioneddol drawsnewidiol ar draws y sir ac yn cyd-fynd ag amcan llesiant y Cyngor Sir i alluogi’n cymunedau a’n hamgylchedd i fod yn iach, diogel a llewyrchus. Mae’r fenter hon hefyd yn cyfrannu at uchelgais y Cyngor i ddod yn awdurdod lleol sero-net drwy weithio tuag at leihau’n sylweddol y milltiroedd bwyd o gynnyrch, o’r cae i’r fforc, sydd ar gael i’w gymunedau.”