Hwb Iechyd a Llesiant

131 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bellach wrthi'n datblygu cam nesaf Hwb Iechyd a Llesiant Caerfyrddin. Mae'r gwaith yn cael ei wneud gan y prif gontractwr Bouygues UK. Mae'r cyllid i gyflawni'r gwaith ar yr adeilad mawr hwn yn cynnwys, £7m gan Gronfa Cyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru[IRCF], a chyllid o £18m gan Lywodraeth y DU.

Mae safle Debenhams gynt yng Nghaerfyrddin yn cael ei drawsnewid yn Hwb o’r radd flaenaf a fydd yn darparu ystod eang o wasanaethau iechyd, llesiant, addysg, hamdden, a gwasanaethau cwsmeriaid, o dan un to. Yn y cyfleuster integredig hwn, gall preswylwyr Sir Gaerfyrddin dderbyn gwasanaethau iechyd cymunedol sy’n cael eu darparu yn yr Hwb Iechyd a Llesiant gan Hywel Dda. Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn archwilio cyfleoedd i ddatblygu ei darpariaeth i’r gymuned o ran Iechyd a Llesiant

Ochr yn ochr â gwasanaethau iechyd a llesiant, bydd yr adeilad sydd wedi'i ailbwrpasu yn ffurfio partneriaeth â Chwaraeon a Hamdden Actif i hwyluso campfa 24 awr newydd, a fydd yn cynnwys offer o'r radd flaenaf, ac ystafelloedd ffitrwydd hyblyg ar gyfer sesiynau ymarfer grŵp ac unigol.

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn cyflwyno cynnig hamdden unigryw ar gyfer yr ardal, ar lawr cyntaf yr Hwb Iechyd a Llesiant, bydd canolfan adloniant i'r teulu o safon uchel yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau y gall pobl ifanc a hen eu mwynhau gyda'i gilydd, gan gynnwys golff antur dan do, chwarae meddal tref chwarae, E-Gwib-gertio a TAG Active. Bydd y ganolfan adloniant hefyd yn gartref i gaffi ac ystafelloedd parti, fel y gall teuluoedd gymdeithasu gyda'i gilydd.

Gallwch hefyd ymweld â'r Hwb Iechyd a Llesiant am ystod eang o gymorth, cefnogaeth a chyngor gan ymgynghorwyr arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth am ble y gallwch ddod o hyd i'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd, gan gynnwys amseroedd agor, ewch i'w gwefan.

Bydd y gwaith yn dechrau yn yr Hwb Iechyd a Llesiant yr wythnos hon a bydd ar agor i'r cyhoedd ddechrau 2026.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Bydd datblygiad yr Hwb Iechyd a Llesiant yn rhoi hwb sylweddol i'r economi leol ac yn cynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol tref Caerfyrddin. Mae cefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi bod yn hanfodol er mwyn i ni allu cyflawni'r prosiect hwn ar gyfer canol ein tref. Bydd yn fan ble gall pobl leol gael mynediad hawdd at wasanaethau gofal iechyd rheng flaen yn ogystal â gwasanaethau a ddarperir gan ymgynghorwyr Gwasanaethau Cwsmeriaid penodedig ein Cyngor.
Mae'r Ganolfan Adloniant i'r Teulu yn weithgaredd dan do ar gyfer pob tywydd i deuluoedd gymryd rhan ynddo, beth bynnag fo'u hoedran. Mae'r cyfleusterau yn y Ganolfan Adloniant wedi'u teilwra i hyrwyddo bywydau iach ac egnïol i bawb. Mae natur pontio'r cenedlaethau'r Ganolfan Adloniant yn golygu y gall plant ac oedolion gymryd rhan.
Rwy'n edrych ymlaen at gadw golwg fanwl ar sut mae'r Hwb Iechyd a Llesiant yn symud ymlaen yn ei ddatblygiad.

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Chynllunio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous. Bydd y cynnig hwn yn dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau iechyd a llesiant mewn lleoliad canolog. Ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, bydd o fudd i'n cymuned leol yng Nghaerfyrddin a'r ardal gyfagos, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'n partneriaid a gweld y datblygiad yn symud ymlaen dros y misoedd nesaf.

Ychwanegodd yr Athro Elwen Evans, CB, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant:

Mae datblygiad yr Hwb Iechyd a Llesiant yn cynnig cyfle unigryw i gydweithio â phartneriaid er mwyn edrych ar ffyrdd o adfywio canol y dref trwy gyfuniad o gyfleoedd hamdden, diwylliannol ac addysgol. Mae'r Brifysgol yn edrych ymlaen at barhau â'i pherthynas waith agos gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar y fenter hon gyda'r nod o fod o fudd i breswylwyr a busnesau.

Dywedodd John Boughton, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymru a De-orllewin Bouygues UK:

Mae'n wych cael gweithio ochr yn ochr â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar yr Hwb, gan roi bywyd newydd i bron i 8,000 metr sgwâr o ofod masnachol yng nghanol y dref.
Trwy adnewyddu yn hytrach nag ailadeiladu'r hen siop fawr byddwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Bouygues UK i gynaliadwyedd hinsawdd ac amgylcheddol, a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i ni weithio ar yr Hwb gyda'n cadwyn gyflenwi leol. Bydd yn profi i fod yn ganolfan hanfodol a hygyrch yn y gymuned ar gyfer addysg, iechyd, a hamdden.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad yr Hwb Iechyd a Llesiant, ewch i'r wefan.