Haf Cyffrous o Weithgareddau yn Sir Gaerfyrddin
152 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi cyfres o weithgareddau difyr a di-dâl i blant a theuluoedd drwy gydol gwyliau'r haf. Nod y mentrau hyn yw darparu profiadau hwyliog, addysgol ac actif mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Ymunwch â ni am gyfres o sesiynau Haf o Hwyl, sy'n cynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn parciau lleol. Cynhelir y sesiwn gyntaf ar 29 Gorffennaf ym Mharc Cross Hands rhwng 12:00pm a 2:00pm. Y diwrnod canlynol, mae'r hwyl yn parhau ym Mharc Pontyberem rhwng 10:00am a 12:00pm. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys chwarae blêr, gweithgareddau actif, teganau, celf a chrefft, a chwarae synhwyraidd, gan sicrhau bore neu brynhawn llawn hwyl i'r holl fynychwyr.
Ddydd Llun 29 Gorffennaf, beth am fynd i Ŵyl y Teulu Ffwrnes sy'n cael ei chynnal yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli. Mae'r digwyddiad hwn sydd am ddim yn hwyl i'r teulu cyfan.
Mae'r diwrnod yn llawn theatr stryd, celf a chrefft, ioga a gweithdy cerdd - ac mae'r cyfan am ddim! Mae'r rhestr lawn o weithgareddau, gan gynnwys amseroedd a lleoliad, ar gael ar wefan Theatrau Sir Gâr.
I gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod, cysylltwch â Theatrau Sir Gâr:
Ffôn: 03452263510
Nid oes angen prynu tocyn, dewch a mwyhewch!
Mae'r Cyngor hefyd yn trefnu dwy daith bws am ddim, gan roi cyfle i blant a theuluoedd archwilio lleoedd newydd a mwynhau diwrnod allan. Ar 7 Awst, gall teuluoedd ymuno â thaith i Barc Fferm Wiggleys ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ddiweddarach yn y mis, ar 22 Awst, bydd taith i Ddinbych-y-pysgod. Mae'r ddwy daith yn cynnwys sawl pwynt casglu ar draws Cwm Gwendraeth, gan ei gwneud hi'n hawdd i deuluoedd ymuno yn yr hwyl. I archebu eich lle ar y teithiau, cysylltwch â MADAVIES@sirgar.gov.uk MADAVIES@carmarthenshire.gov.uk
Yn ogystal, ar 15 Awst, rhwng 10:00am a 12:00pm, bydd digwyddiad cyffrous ym Maes Parcio Leekes Cross Hands lle gall teuluoedd gwrdd â gweithwyr proffesiynol lleol, gan gynnwys swyddogion heddlu, y Gwasanaeth Tân ac Achub, Gwasanaeth Deintyddol, Gwylwyr y Glannau a mwy. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i blant ddysgu am y rolau pwysig y mae'r gweithwyr proffesiynol hyn yn eu chwarae yn ein cymuned wrth fwynhau gweithgareddau rhyngweithiol ac addysgol.
Bydd ein rhaglen Bwyd a Hwyl yn rhedeg dros 12 diwrnod yn ystod gwyliau haf yr ysgol ac yn cael ei chynnig i ysgolion cymwys yn Sir Gaerfyrddin sydd â 16% neu fwy o gymhwysedd am Brydau Ysgol am Ddim. Mae'r 8 ysgol sy'n cymryd rhan yn y cynllun wedi cyfathrebu gwybodaeth lawn am y rhaglen Bwyd a Hwyl i ddisgyblion cymwys. Bydd 4 ysgol sy'n cymryd rhan yn ymweld â Fferm Sirol Bremenda Isaf i gymryd rhan mewn gweithgareddau tyfu a chynaeafu llysiau, bydd cynnyrch arall o'r fferm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwersi coginio yn ystod y rhaglen.
Mae sesiynau chwarae mynediad agored am ddim, a drefnir gan People Speak Up, ar gael yn ystod gwyliau'r haf ledled Sir Gaerfyrddin. Mae Chwarae Stryd Sir Gâr yn cynnig lle diogel i blant chwarae ar y stryd.
Amser tymor – dydd Sadwrn
- 11am - 1pm - Ystâd Parc y Bryn, Caerfyrddin
- 2:30pm - 4:30pm - Maes y Gors, Tyisha, Llanelli (Ger Home Bargains)
Yn ogystal, mae tri Digwyddiad Diwrnod Chwarae Cenedlaethol am ddim yn cael eu cynnal yn Sir Gaerfyrddin:
• 5 Awst: Parc Caerfyrddin, 1pm – 4pm
• 7 Awst: Tyisha, Llanelli, 1pm – 4pm
• 9 Awst: Parc Rhydaman, 1pm – 4pm
Am fwy o wybodaeth, ewch i: Chwarae Stryd Sir Gar - People Speak Up
Mae'r Tîm Pobl Ifanc Egnïol yn cefnogi digwyddiadau a sefydliadau amrywiol, fel Bwyd a Hwyl, Scarlets yn y Gymuned Heini, Bwydo a Hwyl, a digwyddiadau cynghorau cymuned dros yr haf. Gellir dod o hyd i fanylion am wersylloedd haf y Scarlets ymaa'r ddolen archebu yma.
Yn ogystal, mae llu o weithgareddau â thâl i blant wedi'u trefnu yng nghanolfannau hamdden Sir Gaerfyrddin Actif yr haf hwn. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch fan hyn.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Rydym yn falch iawn o gynnig y gweithgareddau gwych hyn i blant a theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n hanfodol darparu profiadau cefnogol, ymgysylltiol, am ddim sydd nid yn unig yn diddanu ond sydd hefyd yn addysgu ac yn cyfoethogi bywydau ein preswylwyr ifanc.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i weithio gyda'n partneriaid i ddarparu'r cyfleoedd gwerthfawr hyn.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau'r haf sydd ar gael yn Sir Gaerfyrddin, ewch i wefan Darganfod Sir Gaerfyrddin.