Gwaith i fynd i'r afael â Chlefyd Coed Ynn yn parhau ar draws Sir Gaerfyrddin.
159 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn mynd i'r afael â'r perygl a achosir gan glefyd Coed Ynn drwy weithio i gael gwared ar goed heintiedig ger y briffordd y mae'r Cyngor yn uniongyrchol gyfrifol amdanynt, ac sy'n peri risg annerbyniol i'r cyhoedd.
Misoedd yr haf yw'r adeg gorau i asesu coed ynn heintiedig pan fyddant yn eu dail. Ar hyn o bryd mae Arolygwyr Priffyrdd y Cyngor yn arolygu dros 730km o rwydwaith ffyrdd gan roi blaenoriaeth i'n ffyrdd A a B a ffyrdd dosbarth C prysur. Mae coed heintiedig sydd o dan berchnogaeth y Cyngor a pherchnogaeth breifat yn cael eu tagio â rhuban neu eu chwistrellu â phaent lle mae mwy na 50% o gorun y coed wedi marw. Mae'r trothwy o 50% wedi cael ei fabwysiadu'n genedlaethol fel y pwynt lle mae coed yn dod yn fygythiad annerbyniol i bobl ac eiddo.
Er bod yr Arolygwyr Priffyrdd wedi tagio coed ynn heintiedig, atgoffir perchnogion tir preifat fod y cyfrifoldeb cyffredinol yn parhau gyda'r perchenogion tir i reoli eu coed a chael gwared ar y rhai sydd wedi'u tagio.
Pan fydd tirfeddianwyr yn methu â rheoli'r risg a achosir gan eu coed, mae'r Cyngor yn defnyddio pwerau o dan Adran 154 o Ddeddf Priffyrdd 1980 i gael gwared â'r coed. Yna caiff y costau a ysgwyddir gan y Cyngor eu codi ar berchennog y tir.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Mae cael gwared â choed ynn heintiedig yn waith peryglus a dylai gael ei wneud gan feddygon coed profiadol yn unig. Cynghorir perchnogion tir i gyflogi meddyg coed â chymwysterau ac yswiriant i roi cyngor ar eu coed a sut y gellir rheoli Clefyd Coed Ynn. Dylai'r rhai sy'n pryderu am effeithiau cwympo coed ar fywyd gwyllt nodi y bydd y Cyngor yn dechrau'r gwaith ar goed yr effeithir arnynt yn ystod misoedd yr hydref a'r gaeaf, er mwyn lleihau unrhyw effaith negyddol ar fywyd gwyllt, fel adar, ystlumod a phathewod.
I gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys cwestiynau cyffredin ewch i'r wefan.