Gwaith cynnal a chadw ffyrdd ar y gweill

58 diwrnod yn ôl

Anogir gyrwyr yn Sir Gaerfyrddin i gymryd gofal tra bo gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael ei wneud ar y ffyrdd ledled y sir.

Mae'r Cyngor yn gwneud gwaith gosod wyneb yn flynyddol fel bod y ffyrdd yn fwy diogel ac yn well i'w defnyddio.

Mae'n golygu taenu bitwmen poeth ar y ffordd, ac wedyn rhoi haenau o gerrig mân caled ar ei ben. Wedyn bydd sgubwr mecanyddol yn clirio’r cerrig diangen.

Gyda'i gilydd mae'r darnau ffordd sy'n cael eu trin yn cyfateb i ffordd gerbydau sengl safonol tua 45 milltir o hyd.

Gofynnir i yrwyr gymryd gofal ychwanegol pan fydd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn osgoi damweiniau a difrod.

Dylai pobl yrru'n ofalus o fewn y terfyn cyflymder a argymhellir ac ni ddylent oddiweddyd na brecio a throi'n sydyn wrth i'r wyneb newydd sefydlogi.

Hefyd cynghorir cerddwyr i gymryd gofal wrth gerdded ger unrhyw wyneb sydd wedi ei drin gan fod y bitwmen yn gallu glynu wrth esgidiau. Gellir defnyddio toddyddion fel sbirit gwyn neu dyrpant i waredu bitwmen.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'r gwaith hwn yn estyn disgwyliad oes y ffordd, gan ei fod yn rhwystro dŵr rhag treiddio i seiliau'r ffordd a'u gwanhau. Mae hyn hefyd yn lleihau'r siawns bod tyllau'n mynd i ddatblygu yn y ffordd. 
Ar ôl ei thrin, mae'r ffordd yn gallu atal sgidio yn well.
 Hwn yw'r dull mwyaf cost effeithiol o osod wyneb newydd ar ein ffyrdd ac mae hefyd yn golygu bod modd i draffig yrru dros yr wyneb newydd bron yn syth ar ôl hynny.
 Fel ym mron pob math o waith cynnal a chadw priffyrdd, mae'n tarfu ar lif y traffig ac mae angen i yrwyr deithio'n araf ar yr wyneb newydd i osgoi llacio'r cerrig mân.
 Dyma pam mae terfynau cyflymder cynghorol yn cael eu gosod. Gall gyrwyr anystyriol sy'n teithio'n gynt na'r terfyn cyflymder sy'n cael ei argymell danseilio diogelwch ffyrdd ac achosi difrod i'w cerbyd eu hunain ac i gerbydau eraill, i gerddwyr, ac i eiddo gan fod perygl y bydd y cerrig mân yn tasgu.”

 

Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o oedi ac mae'r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir yn ystod y gwaith.