Gwaith blynyddol o dorri'r glaswellt wrth ymyl y ffordd yn dechrau

57 diwrnod yn ôl

Mae gweithwyr priffyrdd Cyngor Sir Caerfyrddin wrthi’n gwneud eu gwaith blynyddol o dorri'r glaswellt wrth ymyl y ffordd i wneud y briffordd yn ddiogel a gofalu am gynefinoedd pwysig ar yr un pryd.

Fel rhan o'i ddyletswydd i amddiffyn bioamrywiaeth,  dim ond rhyw fetr o laswellt fydd yn cael ei dorri yn y rhan fwyaf o fannau lle mae tyfiant yn effeithio ar allu defnyddwyr ffyrdd i weld yn glir ac yn achosi perygl i gerddwyr. Bydd sawl ymyl ffordd yn cael eu gadael tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn caniatáu i flodau hadu cyn cael eu torri.

Bydd llawer o'r llecynnau glaswelltog a'r blodau gwyllt sydd wrth ymyl y ffordd yn Sir Gâr yn cael eu gadael heb eu torri i gynnal bywyd gwyllt lleol a phryfed peillio.

Dim ond os oes pryderon iechyd a diogelwch y bydd torri'n digwydd yn y mannau hyn, yn enwedig mewn parthau 20-40mya mewn trefi a phentrefi.

Y tirfeddiannwr cyfagos sydd â chyfrifoldeb dros berthi a choed ffin a dylid eu harchwilio a'u cynnal yn rheolaidd. Os nad yw coed a pherthi yn cael eu rheoli'n gywir gallant amharu ar ddiogelwch ffyrdd, yn enwedig ger cyffyrdd neu droeon lle gallant beryglu gwelededd hanfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i gadw'r ffyrdd yn ddiogel i bob defnyddiwr, sicrhau gwelededd, darparu mannau i gerddwyr gamu oddi ar y ffordd os nad oes llwybrau troed, ac atal rhywogaethau dieisiau rhag lledaenu.
Mae ein gwaith torri glaswellt wrth ymyl y ffordd wedi'i ddatblygu'n ofalus i wneud yn siŵr bod y briffordd yn ddiogel a bod ardaloedd pwysig o gynefin yn ddiogel, felly rydyn ni'n torri cyn lleied ag sydd raid. Yn y rhan fwyaf o leoedd, dim ond rhyw fetr o laswellt fydd yn cael ei dorri lle mae tyfiant yn effeithio ar allu defnyddwyr ffyrdd i weld yn glir ac yn achosi perygl i gerddwyr. Mae llawer o'r ymylon yn cael eu torri yn gynharach neu'n hwyrach yn y tymor er mwyn caniatáu i rywogaethau brodorol ffynnu.”

Mae pryfed peillio yn hanfodol ar gyfer cynnal a chadw ecosystemau trwy beillio planhigion gwyllt sy'n sail i'r rhan fwyaf o gynefinoedd. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gynhyrchu llawer o gnydau.

Mae'r cyngor yn gwarchod a gwella bioamrywiaeth ac mae ganddo ystod o brosiectau ar waith i gefnogi rhywogaethau a chynefinoedd lleol.

Gall rheoli ardaloedd ar gyfer bywyd gwyllt ddarparu cyfleoedd i unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion gymryd rhan, sydd o fudd i fywyd gwyllt ac i bobl. 

Ewch i'n Tudalennau bioamrywiaeth i gael rhagor o wybodaeth a syniadau am ffyrdd o gefnogi cadwraeth leol.