Datganiad ar Ysgol Heol Goffa - 9 Gorffennaf
164 diwrnod yn ôl
Yn dilyn cyfarfod rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa heddiw, 9 Gorffennaf 2024, mae ymrwymiad wedi cael ei wneud i weithio ar y cyd er mwyn datblygu cynllun i ddarparu'r cyfleusterau gorau un ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli.
Gydag anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa yn flaenllaw ym meddyliau pawb, bydd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth ADY bresennol yn Llanelli yn dechrau yn ystod y tymor ysgol nesaf, yn hydref 2024. Bydd yr adolygiad hwnnw'n ystyried barn dysgwyr, rhieni, staff, llywodraethwyr a rhanddeiliaid ehangach. Bydd unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu yn y dyfodol, yn dilyn yr adolygiad annibynnol, yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn ar yr adeg briodol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price:
Rwy'n falch bod y Cyngor Sir a Bwrdd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa wedi cytuno i gydweithio ar ddeall yr anghenion o ran darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion ag ADY yn Llanelli.
Rwy'n sylweddoli bod y misoedd diwethaf wedi bod yn anodd, gan y gwnaed penderfyniad ym mis Mai i beidio â pharhau â'r cynlluniau i adeiladu ysgol arbennig newydd oherwydd cynnydd enfawr yn y costau. Er na allwn barhau â'r cynlluniau penodol hyn, hoffwn bwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud i gau'r ysgol bresennol.
Rwy’ am ailadrodd a rhoi sicrwydd i rieni ein bod wedi ymroi'n llwyr i ofalu bod pob disgybl yn parhau i gael yr addysg orau posib.”
Dywedodd Pennaeth Ysgol Heol Goffa, Miss Ceri Hopkins:
Mae cymuned yr ysgol yn edrych ymlaen at gydweithio â'r awdurdod lleol i sicrhau bod gan y dysgwyr mwyaf agored i niwed fynediad at yr adnoddau gorau, y ddarpariaeth orau, a'r addysg orau - yr hyn maen nhw'n ei haeddu. Edrychwn ymlaen at y cyfle i sicrhau bod lleisiau'r holl randdeiliaid yn cael eu clywed a'u hystyried. Mae'r staff yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu'r addysg, y gofal a'r sgiliau bywyd gorau posib, ac rwy' am ddiolch i'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth i'n disgyblion a'n staff.”