Cabinet i ystyried newidiadau i gasgliadau gwastraff

46 diwrnod yn ôl

Bydd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cwrdd ddydd Llun, 29 Gorffennaf 2024, i benderfynu ar y camau nesaf mewn perthynas â gwelliannau i'r gwasanaethau ailgylchu er mwyn cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Cyflwynwyd cam cyntaf Strategaeth Wastraff y Cyngor Sir ym mis Ionawr 2023 ac, oherwydd ymdrechion trigolion Sir Gaerfyrddin, mae'r sir bellach yn ailgylchu dros 70% o'i gwastraff.

Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Caerfyrddin gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ar gyfer 2024/2025 a gweithio i gyrraedd y targed disgwyliedig o 80% erbyn 2030, a dim gwastraff erbyn 2050. Gall cynghorau sy'n methu â bodloni eu rhwymedigaeth statudol gael dirwy o £200 am bob tunnell neu £164,000 fesul 1% yn is na'r targed statudol. 

Bydd aelodau'r Cabinet yn ystyried sut y bydd y Cyngor yn gweithredu ail gam y Strategaeth Wastraff, mewn partneriaeth â chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin. Bydd hyn yn galluogi preswylwyr i fod yn fwy parod i ailgylchu mwy o wastraff a chyrraedd targedau ailgylchu yn y dyfodol sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu nifer y deunyddiau y gellir eu hailgylchu sy'n cael eu casglu o dŷ i dŷ a symud i ffwrdd oddi wrth gynwysyddion ailgylchu na ellir eu hailddefnyddio (bagiau glas). Y cynnig dan ystyriaeth fydd casgliadau wythnosol ar gyfer gwastraff y gellir ei ailgylchu sy'n cael ei wahanu wrth ymyl y ffordd i'r canlynol:

  • Caniau a phlastig, gan gynnwys ffilm blastig, mewn cynwysyddion y gellir eu hailddefnyddio.
  • Gwastraff bwyd mewn cadis ar wahân.
  • Gwydr mewn bocsys du.
  • Papur a chardbord mewn cynwysyddion ar wahân y gellir eu hailddefnyddio.
  • Tecstilau a batris mewn cynwysyddion ar wahân y gellir eu hailddefnyddio.

I ddarparu'r gwasanaeth gwastraff mwyaf cost-effeithiol ac effeithlon o ran adnoddau yn y tymor hir, bydd y Cabinet yn ystyried y cynigion i adleoli depo'r gweithlu a'i ganoli yn Nantycaws ac adolygu patrymau gwaith sifft gweithredol. Er bod y cynigion hyn yn darparu llawer o fanteision gweithredol a strategol, mae barn a chefnogaeth ein staff a'n gweithlu yn bwysig. Felly, mae'r Cyngor wedi cynnal rhaglen gynhwysfawr o ymgysylltu ac ymgynghori ag aelodau staff ar draws y timau rheng flaen ym mhob un o'i ddepos. Mae trafodaethau eisoes ar y gweill gydag undebau llafur ac mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gwrdd â nhw'n rheolaidd i roi sylw i bryderon posibl.

Nid yw'r cynigion hyn yn cael unrhyw effaith ar y canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref yn Nantycaws, Trostre, Wern Ddu a Hendy-gwyn ar Daf.

Canfu dadansoddiad diweddar o wastraff a gynhaliwyd gan y Cyngor fod modd ailgylchu 39.2% o'r gwastraff a oedd yn cael ei gasglu mewn bagiau du. Er mwyn cyd-fynd â dull casglu glasbrint Llywodraeth Cymru, mae newid i gasgliadau bob pedair wythnos yn cael ei ystyried i annog trigolion i flaenoriaethu arferion ailgylchu a lleihau gwastraff.

Drwy’r posibilrwydd o gasgliadau llai aml o fagiau du, mae unigolion yn cael eu cymell i wneud y defnydd mwyaf posibl o'u gwasanaethau ailgylchu a lleihau faint o wastraff gweddilliol sy'n cael ei greu.

Mae'r newid yn y gwasanaeth gwastraff yn golygu y bydd angen cael fflyd cerbydau casglu gwastraff newydd yn lle'r un bresennol. Fel rhan o'r newid hwn, mae'r Awdurdod yn cynnig gweithredu 9 cerbyd casglu allyriadau isel iawn, a fyddai'n cael eu caffael gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru. Byddai hyn yn cyfateb i 25% o fflyd casglu gwastraff y Cyngor ac yn lleihau allyriadau carbon y gwasanaeth.

I helpu gyda'r newid i'r gwasanaeth casglu gwastraff a'r gwaith ehangach o greu'r seilwaith sy'n gysylltiedig â'r cynllun, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i sicrhau cyllid o dros £15 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet, bydd yr adroddiad ynghylch y Strategaeth Wastraff yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd ddydd Mercher, 31 Gorffennaf.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

 

Diolch i'n trigolion, yn Sir Gaerfyrddin gallwn fod yn falch iawn o'n cyfraniad at sicrhau mai Cymru yw'r ail orau yn y byd ar gyfer ailgylchu.

Mae'r newidiadau cychwynnol i'r gwasanaeth gwastraff, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2023, wedi llwyddo i gynyddu cyfraddau ailgylchu i dros 70% a'n galluogi i baratoi'r ffordd ar gyfer ail gam ein Strategaeth Wastraff, sy'n cyd-fynd ag awdurdodau eraill yng Nghymru ac yn hyrwyddo ymrwymiad Sir Gaerfyrddin i gyfrifoldeb amgylcheddol.

Rydym eisoes wedi dechrau ymgynghori â staff ac undebau llafur ar y newidiadau hyn, a phe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r cynlluniau hyn, byddwn yn parhau i wrando arnynt ac ymgysylltu â thrigolion Sir Gaerfyrddin i sicrhau proses newid esmwyth a threfnus yn 2026.”

Bydd Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn cwrdd ddydd Llun, 29 Gorffennaf 2024 i drafod y newidiadau arfaethedig i gasgliadau gwastraff.