Bws Bach y Wlad: Eich tocyn i haf cyfleus

46 diwrnod yn ôl

Wrth i wyliau'r haf agosáu, bydd gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn adnodd hanfodol i bobl ifanc, rhieni ac oedolion sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnig ateb dibynadwy a fforddiadwy o ran cludiant.

Mae Bws Bach y Wlad yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc yn eu harddegau archwilio, cysylltu â'u ffrindiau a mwynhau'r haf i'r eithaf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys teithio rhatach a phrisiau gostyngol i bobl ifanc, gan ei wneud yn ddewis deniadol i deuluoedd sydd am arbed arian ar gostau teithio. Gall rhieni fod yn dawel eu meddwl gan wybod bod gan eu plant ffordd ddiogel a chyfleus o deithio'n annibynnol ac archwilio atyniadau, parciau a gweithgareddau hamdden lleol.

Fel gwasanaeth bws o bentref i bentref, mae'n cysylltu preswylwyr cefn gwlad â lleoliadau allweddol, felly p’un a ydych yn cymudo i’r gwaith, yn mynd i apwyntiadau, neu’n mynd o fan i fan mae Bws Bach y Wlad yn ffordd gyfleus a fforddiadwy o deithio. Yn ogystal, mae Bws Bach y Wlad yn cysylltu â'r gwasanaethau T1 a 460 i Gaerfyrddin, gan gynnig cyfle i bobl deithio ymhellach i ffwrdd. Mae'r gwasanaeth hwn yn cefnogi twf a datblygiad economaidd drwy ei gwneud hi'n haws i breswylwyr gael mynediad i gyfleoedd gwaith a gwasanaethau hanfodol fel gofal iechyd a siopa.

Drwy lenwi'r bwlch a adawyd yn sgil terfynu gwasanaeth Bwcabus, nod Bws Bach y Wlad yw gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus a darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer teithio cyfleus a fforddiadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Rydym yn annog pawb i fanteisio ar wasanaeth Bws Bach y Wlad yr haf hwn. P’un a ydych chi’n bwriadu mynd ar grwydr, mynd i apwyntiad neu angen trafnidiaeth ddibynadwy i fynd i’r gwaith, mae Bws Bach y Wlad yma i’ch gwasanaethu chi.
Drwy ddefnyddio'r gwasanaeth, byddwch yn dod yn rhan o fenter gymunedol sy'n cefnogi cysylltiadau lleol ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn.

Am fwy o wybodaeth am wasanaeth Bws Bach y Wlad, gan gynnwys manylion yr amserlen, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin yma.