Agor adeilad newydd Ysgol Pen-bre yn swyddogol

90 diwrnod yn ôl

Mae adeilad newydd Ysgol Pen-bre wedi'i agor yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, mewn seremoni yr oedd plant, athrawon, a staff yr ysgol yn bresennol ynddi ddydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024.

Mae'r adeilad ysgol gynradd newydd sbon hwn, a gostiodd £8.25M, wedi'i godi ar dir ger safle'r hen ysgol, ac mae lle i 270 o ddisgyblion cynradd 3-11 oed, a 30 o leoedd meithrin. Cyflawnwyd y cynllun hwn fel rhan o fuddsoddiad Band B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Sir Gaerfyrddin.  

Adeiladwyd yr adeilad gan gontractwyr lleol, TRJ (Betws) Ltd.

Gan gymryd lle'r hen adeilad, mae'r safle newydd hwn bellach yn cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg (a oedd gynt mewn ystafell ddosbarth symudol ar wahân) o dan yr un to.  Mae wedi trawsnewid y ddarpariaeth addysg yn ardal Pen-bre trwy ddarparu cyfleusterau ac adeilad o'r radd flaenaf i ddisgyblion a staff, yn ogystal ag amgylchedd dysgu addas ar gyfer addysg yn yr 21ain ganrif.

Mae darparu'r cyfleuster modern a newydd hwn ar gyfer ysgol a chymuned Pen-bre yn cael ei gyflawni dros ddau gam, ac fel rhan o'r cam cyntaf symudodd plant, athrawon a staff i'r ysgol newydd ym mis Chwefror 2024, yn dilyn gwyliau hanner tymor. 

Mae'r gwaith ar Gam 2 yn mynd yn dda, lle dymchwelir hen adeilad yr ysgol i greu cae chwaraeon at ddefnydd cymunedol, ardal gemau amlddefnydd (MUGA), ysgol goedwig ar gyfer dysgu yn yr awyr agored, a gwaith tirlunio a seilwaith cysylltiedig.

Ar ôl ei gwblhau, bydd y cae chwaraeon newydd yn cael ei drosglwyddo i ddwylo Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn, yn lle'r cyfleusterau cymunedol a gollwyd ar y tir lle mae'r ysgol newydd. Bydd y cae yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol yn ystod oriau ysgol ac ar gael i'r gymuned y tu allan i'r oriau hyn.

Dywedodd Aneirin Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin:

Mae'r ysgol newydd hon yn adnodd modern gwych fydd yn rhoi profiadau rhagorol i'n staff a'n dysgwyr.
Mae'n bwysig pwysleisio bod yr ased hollol gyfoes hwn ar gyfer y gymuned, ac rwy'n siŵr bydd y gymuned yn elwa ar ddefnyddio'r adeilad, y maes chwarae a'r cae chwaraeon ar ôl oriau ysgol.”

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies:

Dyma i chi ddatblygiad o'r radd flaenaf sy'n adnodd ardderchog i'r plant, yr athrawon, y staff, ac yn wir, cymuned Pen-bre yn ei chyfanrwydd.
Er gwaetha'r heriau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r awdurdod, rydym ni am wneud popeth yn ein gallu i wella'r amgylcheddau dysgu ledled y sir. Rwy'n siŵr bydd pawb yn hapus yn yr ysgol hon.”