Y Cyngor am wella ansawdd aer o amgylch ysgolion yn Sir Gaerfyrddin

79 diwrnod yn ôl

Mae Tîm Llygredd Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i weithio gydag ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer ledled Sir Gaerfyrddin.

Ar ôl lansio prosiectau ansawdd aer yn llwyddiannus o amgylch pedair ysgol yn Sir Gaerfyrddin ym mis Medi 2023, mae tîm Llygredd y Cyngor wedi parhau i weithio gydag ysgolion lleol, gan godi ymwybyddiaeth ac addysgu disgyblion ynghylch pwysigrwydd ansawdd aer. Mae hyn yn cynnwys gosod dyfeisiau monitro ansawdd aer a chynnal sesiynau gwybodaeth gyda disgyblion.

Cododd y sesiynau ymwybyddiaeth o'r effaith negyddol y gall ansawdd aer gwael ei chael ar iechyd yn ogystal â dangos sut y gall pethau bach arwain at newid cadarnhaol. Mae'r ysgolion dan sylw hefyd wedi cynnwys y negeseuon allweddol hyn yn y cwricwlwm.

Cafodd dyfeisiau monitro ansawdd aer eu gosod y tu allan i Ysgol Llandeilo, Ysgol Teilo Sant yn Llandeilo, Ysgol Ffwrnes yn Llanelli ac Ysgol Parc Waundew yng Nghaerfyrddin i ddarparu data amser real ar lygryddion fel nitrogen deuocsid a gronynnau. Bydd y dyfeisiau monitro hefyd yn helpu i bennu unrhyw welliannau i ansawdd aer dros gyfnod o amser.

Dywedodd Jonathan Morgan, Pennaeth Tai a Diogelu'r Cyhoedd:

 

Er bod ein data monitro'n dangos bod Sir Gaerfyrddin yn bodloni holl amcanion presennol ansawdd aer y DU ar gyfer nitrogen deuocsid, mae'n bwysig ein bod yn ymdrechu i wella ansawdd aer lle bynnag y bo modd.

Mae'r prosiect hwn wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ansawdd aer ymhlith ein trigolion iau, sydd wedi bod yn wych hefyd am godi'r materion pwysig hyn gartref.

Byddem hefyd yn annog unrhyw un sy'n casglu plant o'n hysgolion i feddwl sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth i ansawdd aer, gan gynnwys diffodd injan y car wrth aros, parcio ymhellach i ffwrdd neu gerdded i'r ysgol.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau ansawdd aer yn Sir Gaerfyrddin, anfonwch e-bost.