Traeth Cefn Sidan yn cadw statws y Faner Las

79 diwrnod yn ôl

Newyddion da i ymwelwyr â thraeth Cefn Sidan ar ôl i'r safle gadw statws y Faner Las.

Mae'r traeth yn enwog am ei dywod euraidd gogoneddus 8 milltir o hyd a'i fôr glas ac wedi'i leoli ym Mharc Gwledig Pen-bre. Cefn sidan yw'r gyrchfan ddelfrydol i'r rheiny sy'n hoff o fod ar lan y môr.

Mae statws y Faner Las yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol a dim ond yn cael ei roi i draethau, marinas a harbyrau sy'n meddu ar yr ansawdd gorau posibl o ran dŵr, addysg amgylcheddol, diogelwch a gwasanaethau. Mae'r wobr yn arwydd o safle sy'n rhoi profiad o'r radd flaenaf i bobl leol ac i ymwelwyr â Sir Gâr. Rhoddir y wobr ar ôl ystyriaeth ofalus gan reithgor rhyngwladol dethol.

Dywedodd Pennaeth Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin, Ian Jones:

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn gosod safonau amgylcheddol uchel ar draws ei safle. Mae cadw Statws y Faner Las yn adlewyrchu'r ymroddiad hwn i gadw traethau Sir Gâr yn ddiogel, yn lân ac yn groesawgar.
Nid yw Statws y Faner Las yn rhywbeth newydd i Draeth Cefn Sidan, gan mai hwn oedd y traeth cyntaf yng Nghymru i ennill y wobr nodedig hon, ac mae'n lleoliad delfrydol i deuluoedd a ffrindiau fwynhau'r heulwen.

Mae Parc Gwledig Pen-bre yn barc a thraeth arobryn yn Sir Gâr mewn 500 erw o goetir ar hyd tywod euraidd. Hwn yw un o'r atyniadau gorau i ymwelwyr yng Nghymru gan gynnig cyfuniad unigryw o arfordir a chefn gwlad. Mae ganddo bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod perffaith allan gyda'r teulu, penwythnos mewn pabell, neu wyliau ymlaciol mewn llecyn dymunol dros ben.