Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru 2024 yn mynd yn fyw

87 diwrnod yn ôl

Gwahoddir pob parti sydd â diddordeb i dendro am bedwerydd iteriad Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru (SWWRCF2024). Rhagwelir y bydd gwerth hyd at £800 miliwn o gontractau adeiladu yn cael eu comisiynu drwy'r iteriad fframwaith newydd sydd bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru.

Mae'r gwaith o adnewyddu'r fframwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Caerfyrddin, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Sir Ceredigion, a Chyngor Abertawe, i sefydlu cytundeb fframwaith i'w ddefnyddio gan y sector gyhoeddus, a sefydliadau gwirfoddol sydd wedi'u lleoli yn y pum sir a restrir uchod a sefydliadau sy'n gweithredu o fewn Rhanbarth Powys.

Pwrpas y fframwaith fydd cynorthwyo rhanbarth De-orllewin Cymru gyfan yn ogystal â'r sector cyhoeddus ehangach i ymgymryd â Chontractau Gwaith Mawr gan gynnwys adeiladau newydd, gwaith adnewyddu ac atgyweirio adeiladau am gyfnod hyd at bedair blynedd - hyd at 2028. Mae'r fframwaith newydd yn darparu llwybr sy'n cydymffurfio ac yn effeithlon i'r farchnad a mynediad at gontractwyr blaenllaw'r farchnad, gan leihau amserlenni caffael a chostau cysylltiedig.

Bydd hefyd yn darparu arbedion caffael, yn enwedig ar gontractau gwerth uchel, gyda chyrff sector cyhoeddus yn elwa ar ymgysylltu lleol, mwy o effeithlonrwydd a llai o ddyblygu.

Rhoddwyd pwyslais ar gefnogi mentrau bach a chanolig yng nghadwyn gyflenwi Cymru, mewn ymgais i gefnogi'r economi leol a hybu cyflogaeth.

Mae arferion gwerth cymdeithasol hefyd wedi bod yn ganolbwynt allweddol i'r broses asesu, er enghraifft mae'n rhaid i bob prosiect dros £1 miliwn adael etifeddiaeth gymunedol bositif, gan gyflawni yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Bydd ffocws mawr hefyd ar fentrau sero net a lleihau carbon er mwyn cyfrannu at liniaru newid yn yr hinsawdd, deunyddiau cadwraeth adnoddau, cynnydd mewn adeiladau sy'n effeithlon o ran ynni, ac yn y pen draw, darparu gwytnwch hirdymor o fewn y diwydiant adeiladu i ddiogelu buddsoddiadau a chymunedau rhag ansicrwydd yn y dyfodol.

Ymhlith y sefydliadau sy'n cael y cyfle i ddefnyddio'r SWWRCF2024 mae adrannau'r llywodraeth ganolog a'u hasiantaethau, cyrff cyhoeddus anadrannol, gweinyddiaethau datganoledig, cyrff y GIG, awdurdodau lleol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, y sector gwirfoddol, elusennau a sefydliadau'r sector preifat sy'n caffael ar ran y cyrff hyn.

Er mwyn cefnogi'r broses o ryddhau'r tendr a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i ddarpar gontractwyr y fframwaith, cynhaliwyd Digwyddiad Briffio Cyflenwyr ym mis Ebrill 2024 lle daeth nifer fawr o ddarpar gontractwyr ac asiantaethau cymorth ynghyd. Bydd gwybodaeth bellach a gweithdau ar gael yn dilyn cyhoeddi’r tendr.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, Ainsley Williams:

Mae Fframwaith Contractwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn gyfle gwych i gontractwyr gael gwaith gan awdurdodau lleol yn y ranbarth a sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn y rhan hon o Gymru. Yn dilyn Digwyddiad Briffio llwyddiannus i Gyflenwyr a gynhaliwyd yn Llanelli ym mis Ebrill, mae ceisiadau i dendro ar gyfer fframwaith y contractwyr rhanbarthol bellach yn cael eu derbyn drwy wefan GwerthwchiGymru.”