Ymunwch â Phanel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys fel aelod cyfetholedig annibynnol
211 diwrnod yn ôl
Mae Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys am benodi 2 Aelod Cyfetholedig Annibynnol. Mae'r Panel yn gorff cyhoeddus annibynnol a sefydlwyd yn unol â Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 ac mae'n gyfrifol am y swyddogaethau canlynol:
- Cefnogi Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn ardal Dyfed-Powys i gyflawni'i swyddogaeth yn effeithiol.
- Adolygu'r drafft o Gynllun Blynyddol y Comisiynydd ynghylch yr Heddlu a Throseddu.
- Adolygu cyllideb ddrafft flynyddol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
- Adolygu ac archwilio penderfyniadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r camau gweithredu y mae'n eu cymryd.
- Os bydd angen, adolygu'r bwriad i benodi neu i ddiswyddo'r Prif Gwnstabl.
- Rhoi adroddiadau neu argymhellion i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel y bo'r angen.
Ni chaiff ymgeiswyr am y rolau aelod annibynnol fod:
- Yn aelod o staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys.
- Yn aelod o staff sifil Heddlu Dyfed-Powys.
- Yn Aelod Seneddol; yn aelod o Senedd Cymru, neu'n aelod Senedd yr Alban.
- Yn aelod o awdurdod lleol yn ardal Heddlu Dyfed-Powys.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau erbyn 30/06/2024 fan bellaf.
Sut i wneud cais:
Gellir gofyn am gopi o'r ffurflen gais drwy anfon neges e-bost at Robert Edgecombe, Swyddog Cymorth y Panel - rjedgeco@sirgar.gov.uk.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau at Robert Edgecombe, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin. SA31 1JP neu mewn neges e-bost at rjedgeco@sirgar.gov.uk.