Y Cyngor yn gweithio i leihau eiddo gwag yn Sir Gaerfyrddin

218 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lleihau nifer yr eiddo gwag yn y sir drwy gyflwyno'r Fframwaith Eiddo Gwag.

Gan gyfuno camau gorfodi, rhoi premiymau treth gyngor ar eiddo gwag a darparu cymorth i helpu perchnogion i wneud defnydd o'u heiddo gwag unwaith eto, mae'r Fframwaith Eiddo Gwag yn ceisio:

  • Lleihau nifer y tai gwag hirdymor ar draws y sir
  • Cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ateb y galw
  • Mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â niwsans eiddo, anharddwch a'r effaith ar gymunedau

Mae'r astudiaeth achos ganlynol yn enghraifft o'r modd y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynorthwyo cymunedau a pherchnogion i wneud defnydd o eiddo gwag unwaith eto.

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor am eiddo gwag a oedd â rendro rhydd yn cwympo ar ddreif gyfagos a deunydd sbwriel/gwastraff yn yr ardd. Datgelodd ymchwiliadau fod yr eiddo wedi bod yn wag am saith mlynedd a'i fod dan berchnogaeth breifat cwmni cyfyngedig. 

Ymwelodd Swyddogion Tai Gwag y Cyngor â'r eiddo a'i sgorio fel un risg uchel (Categori A), a oedd yn gofyn am gamau gorfodi. Ymatebodd y perchnogion yn gadarnhaol i'r hysbysiad a gyflwynwyd a gwnaethant helpu gydag archwiliad ffurfiol y Cyngor o'r eiddo, a dynnodd sylw at amrywiol beryglon categori 1 (sef y mwyaf difrifol).

O ganlyniad cyflwynwyd hysbysiadau statudol ar yr eiddo. Roedd yr hysbysiadau hyn yn darparu amserlenni amrywiol er mwyn gwneud y gwaith. Mewn achos o beidio â chydymffurfio gall y Cyngor ddewis gwneud gwaith, gan adennill yr holl gostau gan y perchennog.

Cydymffurfiodd y perchennog â'r gwaith yr oedd angen ei wneud oherwydd perygl dybryd, ac yna gwerthodd yr eiddo mewn arwerthiant cyhoeddus. Arhosodd yr Hysbysiadau Gwella ar yr eiddo pan gafodd ei werthu. Wedi iddynt ei brynu aeth y perchnogion newydd ati ar unwaith i wella'r eiddo ac mae hyn yn mynd yn ei flaen yn dda.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Nod cyflwyno'r Fframwaith Cartrefi Gwag yw cymryd cam hyderus er mwyn gwella a meddiannu cartrefi gwag, gan gynyddu'r cyflenwad a'r defnydd o dai i bawb.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i leihau nifer yr eiddo gwag yn y sir, ac mae gwahanol ddulliau o gymorth ar waith i gynorthwyo perchnogion yr eiddo hyn i'w defnyddio eto gan gynnwys cymorth ariannol, yn amodol ar gymhwysedd.”

O 1 Ebrill 2024, cyflwynwyd premiymau treth gyngor hefyd ar eiddo sy'n wag am fwy na 12 mis i annog perchnogion i ystyried a allent wneud gwell defnydd o'u heiddo.

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i berchnogion eiddo gwag ewch i wefan y Cyngor