Wythnos Cynnig Cymraeg

113 diwrnod yn ôl

Hon yw Wythnos Cynnig Cymraeg, sy'n gyfle i ddathlu busnesau ar draws y Sir sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg.

Gall busnesau a sefydliadau sy'n ymfalchïo mewn cynnig gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd wneud cais am y safon hon, sy'n fenter a gyflwynir gan Gomisiynydd y Gymraeg yng Nghymru.

I ddarganfod rhagor am y Cynnig Cymraeg, ewch i'r wefan.

Ar ôl derbyn safon Cynnig Cymraeg y mis diwethaf, mae Equal Education Partners [EEP], wedi'i leoli yn Llanelli yn enghraifft o fusnes yn y Sir sy'n dangos ymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Dywedodd Owen Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr EEP:

Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyflawni'r statws hwn, sy'n dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Fel busnes lleol a sefydlwyd gan ddau siaradwr Cymraeg, rydym yn falch o groesawu a hyrwyddo'r Gymraeg fel rhan annatod o'n diwylliant yn y gweithle.

Fel rhan o raglen Arfor yn Sir Gaerfyrddin, mae cymorth ar gael i fusnesau ac elusennau gyflawni'r statws hwn drwy swyddog ymroddedig a all gefnogi sefydliadau drwy'r broses, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd o gynyddu gwasanaethau Cymraeg yn eich busnesau neu sefydliadau.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Mae Arfor yn rhaglen bwysig sy'n cefnogi busnesau a chymunedau Cymraeg eu hiaith ledled Cymru. Mae wythnos Cynnig Cymraeg yn gyfle i ddathlu hyn ac annog mwy o fusnesau i weithio tuag at ennill cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â ni.


ARFOR@sirgar.gov.uk