Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch yn derbyn Gwobr nodedig y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol
226 diwrnod yn ôl
Mae Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr y Brenin am wasanaethau gwirfoddol i gydnabod ei chyfraniadau rhagorol i ddarparu cyfleoedd theatr gerdd i bobl ifanc yn ardal Gorllewin Cymru.
Gan gydnabod enghreifftiau eithriadol o waith gwirfoddol, crëwyd Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol (KAVS) yn 2002 i ddathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II ac a elwid gynt yn Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS), mae'r Wobr wedi bod yn taflu goleuni ar waith gwych grwpiau gwirfoddol o bob rhan o'r DU ers blynyddoedd lawer. Yn cyfateb i MBE, KAVS yw'r wobr uchaf a roddir i grwpiau gwirfoddol lleol yn y DU, ac fe'u dyfernir am oes.
Wedi'i sefydlu ym 1979, mae Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch wedi bod yn gonglfaen i'r gymuned celfyddydau perfformio yng Nghymru ers dros bedwar degawd. Mae'r hyn a ddechreuodd fel grŵp bach o unigolion ymroddedig yng nghlwb ieuenctid Canolfan Addysg Bellach Caerfyrddin wedi ffynnu i fod yn un o gymdeithasau diwylliannol mwyaf llwyddiannus Cymru, diolch i ymroddiad gwirfoddolwyr.
Dan arweiniad y diweddar Elizabeth Evans MBE a'i gŵr David, mae Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch wedi tyfu o nerth i nerth, gan arddangos adloniant cerddorol o ansawdd uchel ac ennill gwobrau fel Gwobr Lord Snowdon am ei chynhyrchiad cerddorol blynyddol cyntaf o "Snow White" ym 1979. Dros y blynyddoedd, mae Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch wedi parhau i swyno cynulleidfaoedd gyda chynyrchiadau'n amrywio o "Oliver" i "Jesus Christ Superstar," gan ennyn canmoliaeth genedlaethol.
Yn dilyn gwaith adnewyddu mawr yn y Lyric ar ddechrau'r 1990au ac yn ddiweddarach, cafodd yr Opera Ieuenctid gartref a chyfleusterau a olygai y gallai ddarparu cynyrchiadau o'r ansawdd uchaf i gynulleidfa o tua 500 o bobl. Am gyfnod o 15 mlynedd, bu'n gweithredu fel canolfan adloniant a oedd yn cael ei chynnal yn wirfoddol gan Ymddiriedolaeth y Lyric, yn cynnwys cefnogwyr yr Opera Ieuenctid. Ers hynny, mae'r theatr yn eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin ac yn cael ei chynnal fel lleoliad ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae effaith Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch yn ymestyn y tu hwnt i'r llwyfan, gyda llawer o gyn-aelodau'r cast yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn cerddoriaeth a'r celfyddydau dramatig. Mae'r sefydliad wedi ennill cydnabyddiaeth eang oherwydd ei ymrwymiad i ragoriaeth a chynwysoldeb, gan gynnwys gan Ei Mawrhydi'r Frenhines, Emir Qatar, a'u Huchelderau Brenhinol Tywysog Cymru a Duges Cernyw.
Wrth i Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch ddathlu'r wobr fawreddog hon, mae'n parhau i fod yn gadarn yn ei hymrwymiad i feithrin talent ifanc a chyfoethogi tirwedd ddiwylliannol Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
"Mae Opera Ieuenctid Caerfyrddin a'r Cylch yn ymgorffori ysbryd cymunedol ac ymroddiad i'r celfyddydau sy'n cyfoethogi ein rhanbarth. Mae derbyn Gwobr y Brenin am Wasanaethau Gwirfoddol yn dyst i ymrwymiad diwyro ei gwirfoddolwyr a'r effaith ddwys y mae'r sefydliad yn ei chael ar feithrin talent ifanc. Rydym yn falch o ddathlu ei chyflawniadau ac edrychwn ymlaen at ei chyfraniadau parhaus i fywiogrwydd diwylliannol Gorllewin Cymru."