Ethol y Cynghorydd Handel Davies yn Gadeirydd newydd y Cyngor Sir

148 diwrnod yn ôl

Mae'r Cynghorydd Handel Davies, yr Aelod dros Ward Llanymddyfri, wedi derbyn y gadwyn swyddogol heddiw, 22 Mai 2024.

Wrth gymryd y gadeiryddiaeth talodd y Cynghorydd Davies deyrnged i'r Cadeirydd a oedd yn gadael ei swydd, sef y Cynghorydd Louvain Roberts, gan ddiolch iddi am ei gwasanaeth i'r Cyngor.

Y Cynghorydd Davies fydd Cadeirydd y Cyngor am y 12 mis nesaf. Ei gydymaith fydd ei wraig, Margaret, a'i Is-gadeirydd fydd y Cynghorydd Dot Jones, yr Aelod dros Lan-non.

Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at y flwyddyn i ddod, ac at flwyddyn amrywiol a diddorol."

Mae'r Cynghorydd Davies wedi dewis LATCH, Elusen Canser Plant Cymru, a Prostate Cymru fel ei elusennau yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.

Mae'r Cynghorydd Davies wedi bod yn Gynghorydd Sir ers mis Mai 2017 ac mae'n aelod o Gyngor Tref Llanymddyfri, gan wasanaethu fel Maer yn ystod 2021/22 a 2022/23. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Cymuned Llanfair-ar-y-bryn ers 2017.

Mae'n cynrychioli'r Cyngor Sir yn Ward Llanymddyfri, ac mae'n aelod o Bwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio'r Cyngor, yn rhan o Gorff Llywodraethu Ysgol Rhys Prichard ac yn cynrychioli'r Cyngor ar Elusen Dorothy May Edwards (ardal Ysgol Pantycelyn), Elusen Mary Elizabeth Morris, Ysgol Pantycelyn, Llanymddyfri, Bwrdd Partneriaeth Menter Mynyddoedd Cambrian, a Fforwm Rheilffordd Calon Cymru.

Mae'r Cynghorydd Davies wedi ymddeol o'i swydd flaenorol fel Pennaeth yr Adran Rheoli Adeiladu ond mae'n ei gadw ei hun yn brysur gyda nifer o ddiddordebau. Mae'r rhain yn cynnwys bod yn Llywydd ac yn Aelod Oes o Glwb Rygbi Llanymddyfri, yn Aelod o Gyfeillion Ysbyty Llanymddyfri, yn Gadeirydd Cylch Cinio Cymraeg Llanymddyfri, yn Ymddiriedolwr Amgueddfa Llanymddyfri, yn Ymddiriedolwr ac yn Is-gadeirydd Ysgol Feithrin Tre Ficer, Llanymddyfri, yn Is-gadeirydd Côr Meibion Llanymddyfri, ac yn Gapten Clwb Golff Llanymddyfri.