Datganiad ar Ysgol Heol Goffa 16 Mai, 2024

114 diwrnod yn ôl

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies:

Yn dilyn pryderon yn lleol, mae'n hanfodol rhoi eglurder ynghylch bwriadau'r Cyngor Sir am ddyfodol Ysgol Heol Goffa a darpariaeth addysg Anghenion Dysgu Ychwanegol yn Llanelli
Er bod y Cabinet wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r cynllun arfaethedig ar safle Heol Goffa oherwydd costau adeiladu cynyddol y tu hwnt i'w reolaeth,mae wedi ymrwymo i ymchwilio i ddarparu cyfleusterau amgen ar wahanol safleoedd.
Credwn y bydd yn bosibl darparu cyfleusterau newydd drwy gynllun amgen.
Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl i ddisgyblion ag ADY yn Llanelli, yn yr un modd â gweddill Sir Gaerfyrddin. Bydd hwn yn gyfle i ddatblygu ymhellach ein system addysg gwbl gynhwysol, yn unol â'n hegwyddorion cynhwysiant a rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol Llywodraeth Cymru.
Mae trafodaethau ynghylch darpariaeth addysg ADY yn Llanelli yn y dyfodol yn parhau, ac rydym yn gobeithio gwneud cyhoeddiad am ein cynigion amgen yn yr wythnosau nesaf.”

Cliciwch yma i ddarllen Datganiad ar Ysgol Heol Goffa - 13 Mai 2024.