Cymeradwyo prydles hen Lys Castellnewydd Emlyn.

113 diwrnod yn ôl

Yr wythnos hon mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo trosglwyddo hen Lys Castellnewydd Emlyn i Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn.

Cymeradwyodd y Cabinet brydles 21 mlynedd a fydd yn hwyluso cynllun y Cyngor Tref i ddefnyddio'r safle unwaith eto.

Mae dyfodol yr hen Lys wedi cael ei ystyried yn fanwl, a chynhaliodd y Cyngor Tref ymgynghoriad â'r cyhoedd ynghylch gofynion y gymuned, a chyfraniad posibl y safle i'r anghenion lleol hynny. Roedd canlyniad yr ymgynghoriad yn awgrymu bod y gymuned leol am i'r adeilad gael ei gadw, ei adnewyddu a'i drawsnewid yn ganolfan amlddefnydd.

Mae Cyngor Tref Castellnewydd Emlyn yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU er mwyn talu am y gwaith adfer angenrheidiol. Mae'r cyllid yn amodol ar i'r Cyngor Tref gael prydles am gyfnod digonol i'r safle.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adnoddau:

Nid oes angen yr adeilad mwyach fel y mae ar hyn o bryd ar y Cyngor Sir, ac mae wedi bod yn wag ers tro. Rwy'n croesawu penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo trosglwyddo'r ased hwn i Gyngor Tref Castellnewydd Emlyn. Bydd y cyllid yn sicrhau bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio er budd trigolion y dref.

Mae'r penderfyniad hwn yn unol ag Amcanion Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin: Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus).