Cyfle olaf i ddweud eich dweud ynghylch sut mae tai'n cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin

115 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i breswylwyr ddweud eu dweud ynghylch y ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn y sir, a hynny drwy ymgynghoriad sy'n cau ar 31 Mai.

Y llynedd (20 Chwefror 2023), roedd Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo Polisi Dyrannu Brys i helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, lle roedd y Cyngor, fel roedd holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru, yn wynebu galw cynyddol am dai cymdeithasol yn uwch na lefel y cyflenwad.

Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus o ran y Polisi Dyrannu Brys, mae'r Cyngor bellach yn ceisio gwneud ei ddull newydd o ddyrannu tai cymdeithasol yn gyffredin ac yn ceisio barn ar y newidiadau y mae wedi'u gwneud yn y Polisi Brys.

Mae'r Polisi Dyrannu Brys yn cynnwys:

  • Newidiadau i'r rheiny yr ystyrir eu bod angen tai ar frys
  • Caniatáu i dai gael eu paru'n uniongyrchol ag ymgeiswyr addas sydd â'r angen mwyaf
  • Blaenoriaethu dyraniadau i'r rhai sydd â chysylltiad cymunedol ag ardal benodol
  • Caniatáu i'r Cyngor gofrestru grwpiau penodol o bobl o dan gategori 'dim ffafriaeth'
  • Gofyn i ymgeiswyr ailgofrestru bob chwe mis

Mae'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn amlinellu'r ffordd y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin, gan weithredu dull cyffredin gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill (Cymdeithasau Tai) sy'n gweithredu yn y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans Davies, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Mae amser gennych o hyd i ddweud eich dweud ynghylch y ffordd mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin.

Mae mabwysiadu'r Polisi Dyrannu Brys yn 2023 wedi ein galluogi i helpu'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn gyflymach, drwy baru preswylwyr yn uniongyrchol ag eiddo addas.  Mae angen barn preswylwyr arnom bellach i'n helpu i lunio'r Polisi Dyrannu presennol, a fydd yn cynnwys diweddariadau pwysig i'r ffordd y caiff tai eu dyrannu."

I ddweud eich dweud ynghylch y ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin.