Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru

218 diwrnod yn ôl

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael o hyd at £10,000 ar gyfer busnesau micro, bach a chanolig yn y sector manwerthu, lletygarwch a hamdden i helpu gyda chostau cynnal.


Mae Cronfa Diogelu at y Dyfodol Llywodraeth Cymru wedi'i llunio i helpu busnesau i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy, cyflawni unrhyw welliannau i safleoedd busnes ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni. Bydd y cyllid o £20 miliwn yn helpu tua 2,500 o fusnesau ledled Cymru i gryfhau eu safle masnachu, gan gynyddu proffidioldeb.


Mae'n rhaid i fusnesau fodloni'r meini prawf isod i gael eu hystyried ar gyfer y cyllid hwn:


• Wedi'u lleoli yng Nghymru ac yn cyflogi pobl yng Nghymru
• Yn cyflogi rhwng 1 a 249 o bobl
• Wedi bod yn masnachu cyn 1 Ebrill 2023
• Gweithredu o eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £51,000
• Naill ai'n berchen neu'n prydlesu'r safle busnes ar brydles 3 blynedd o leiaf, sy'n ymestyn y tu hwnt i 1 Ebrill 2026


Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:


Mae'r Cyngor yn croesawu'r cyllid grant hwn a fydd yn sicrhau bod busnesau micro, bach a chanolig yn cael eu cefnogi'n ariannol. Rwy'n annog y perchnogion busnes hyn i fanteisio ar y cyfle hwn a gwneud cais am gyllid i gynyddu eu proffidioldeb a'u llwyddiant yn sylweddol.


Gallwch gyflwyno cais nawr.


I wirio eich cymhwysedd, ewch i: Cronfa Paratoi at y Dyfodol Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)


I weld pa gyfleoedd eraill y gall cyllid grant eu cynnig i'ch busnes, ewch i dudalennau busnes Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Cyngor Sir Caerfyrddin am fwy o wybodaeth.