Chwaraeon a Hamdden Actif yn cynnal Gŵyl Pêl-droed Stryd yn Llanelli
214 diwrnod yn ôl
Daeth timau pêl-droed o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin a'r cyffiniau ynghyd i fynd i'r afael â digartrefedd yng ngŵyl bêl-droed stryd gyntaf Chwaraeon a Hamdden Actif yn Llanelli.
Noddwyd y digwyddiad, a gynhaliwyd ym Mharc Stebonheath, gan gwmni adeiladu Bouygues UK sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gam cyntaf Pentre Awel, ac yn dathlu rhaglen Pêl-droed Stryd Actif. Nod y cynllun yw cefnogi pobl sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref drwy ddefnyddio chwaraeon i wella eu hiechyd corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Mae'r rhaglen yn gweithredu fel llwybr i ymgynghorwyr tai a chyflogaeth Cyngor Sir Caerfyrddin gynnal cyswllt rheolaidd ag unigolion sydd mewn perygl mewn sesiynau hyfforddi wythnosol yn Llanelli, gan ganiatáu i swyddogion hwyluso cefnogaeth ac arweiniad parhaus.
Cymerodd 9 tîm ran yn y gystadleuaeth a thîm Pêl-droed Stryd Actif oedd ar y brig ar ôl curo Dinas Abertawe mewn cosbau. Rhoddwyd medalau i bawb a gymerodd ran, a ddarparwyd gan Tata Steel.
Ar hyn o bryd mae Bouygues UK yn gweithio ar Barth 1 o ddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd, Pentre Awel, a chafodd y digwyddiad ei noddi gan y cwmni ynghyd â'i bartneriaid yn y gadwyn gyflenwi. Yn ogystal, cymerodd tîm o Bouygues ran yn yr ŵyl, gan gynnwys staff sy'n gweithio ar y prosiect nodedig ar hyn o bryd.
Mae'r partneriaid hyn yn cynnwys:
- Dyfed Steel
- Korbuild
- Dudleys Aluminium
- Tom Pitchards
- Whiteheads Building Services
- Acorn Recruitment
- Massey
Dywedodd Nina Willams, Ymgynghorydd Gwerth Cymdeithasol yn Bouygues UK:
Ers gweithio ar Bentre Awel, mae Bouygues UK wedi ymrwymo i raglen eang o fuddion cymunedol i wireddu buddion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol.
Roedd yn wych noddi twrnamaint Pêl-droed Stryd Actif. Mae gwerth cymdeithasol yn hynod bwysig i ni yn Bouygues UK ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle perffaith i gefnogi'r rhai mewn angen yn y gymuned leol mewn ffordd wirioneddol gydweithredol.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:
Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol i godi ymwybyddiaeth am y materion sy'n ymwneud â digartrefedd. Mae'r rhaglen Pêl-droed Stryd yn gweithredu fel lle diogel a dibynadwy lle gall unigolion gael cymorth mewn amgylchedd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar chwaraeon. Llongyfarchiadau i'r tîm buddugol a diolch i drefnwyr, noddwyr a phartneriaid y digwyddiad am eu hymdrechion.
Daeth Dirprwy Faer Tref Llanelli, y Cynghorydd Shaun Greaney i'r digwyddiad a dywedodd:
Roedd Cyngor Tref Llanelli yn falch iawn o allu partneru gydag Actif i gynnal digwyddiad Gŵyl Bêl-droed Stryd ym Mharc Stebonheath. Roedd yn wych gweld cynifer o dimau yn cymryd rhan ac yn mwynhau'r tywydd braf a chyfle i chwarae ym mharc hanesyddol Stebonheath. Diolch i'r holl bartneriaid eraill a helpodd i wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.
Dywedodd llefarydd ar ran Pêl-droed Stryd Cymru:
Mae ein sesiynau a'n digwyddiadau wythnosol yn cael effaith mor gadarnhaol ar gymunedau lleol. Maent yn rhoi cyfle i unigolion wneud ffrindiau newydd, magu hyder, a chreu trefn dda. Mae'r berthynas ddynamig sydd wedi'i meithrin gyda Chwaraeon a Hamdden Actif wedi darparu sesiynau newydd o bêl-droed stryd mewn ardal arall o Gymru. Mae'r berthynas hefyd yn meithrin newid cadarnhaol o fewn mwy o fywydau unigolion ledled Cymru.
Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn fenter sy'n ceisio cefnogi pobl sydd wedi'u heithrio ledled Cymru drwy gyfrwng pêl-droed. Mae noddwyr y rhaglen yn cynnwys Michael Sheen OBE, a'i nod yw bod yn rhan o Gwpan y Byd Digartref 2024 yn Seoul.
Yn unol â nodau Pêl-droed Stryd Cymru, roedd elusennau a sefydliadau amrywiol hefyd yn bresennol, gan gynnwys yr elusen iechyd meddwl MIND a Byddin yr Iachawdwriaeth i gynnig help a chymorth hanfodol i'r rhai sydd ei angen.
Roedd yr ŵyl mewn partneriaeth â Chyngor Tref Llanelli, y Scarlets, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, The Wallich, y Rhwydwaith Amlddiwylliannol a Byddin yr Iachawdwriaeth.
Mae Actif yn cynnal sesiynau pêl-droed stryd wythnosol:
Canolfan Hamdden Llanelli: Dydd Gwener 12 hanner dydd
Bydd sesiynau'n dod i Rydaman yn fuan.
Lluniau gan Michael Hall