Casgliadau gwastraff Gŵyl y Banc
214 diwrnod yn ôl
Byddwn yn ymdrechu i gasglu fel arfer ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, ond oherwydd materion adnoddau, mae'n bosibl na fyddwn yn gallu cwblhau pob rownd.
Sicrhewch eich bod yn rhoi eich sbwriel allan i'w gasglu erbyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol a chofiwch dim mwy na thri bag du.
Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Gallwch weld eu horiau agor yma.
Ewch i'n gwefan i wirio eich diwrnod casglu neu i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
Diolch yn fawr am ailgylchu.