Ailwampio Ffyrdd a Lleihau Gwastraff: Sir Gaerfyrddin yn Treialu Defnyddio Cewynnau wedi'u Hailgylchu ar gyfer Seilwaith Cynaliadwy

214 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gymryd cam mawr tuag at gynnal a chadw priffyrdd mewn modd cynaliadwy a gwella'r modd y mae gwastraff yn cael ei reoli yn y Sir.  Mae'r Cyngor yn cydweithio â Nappicycle, cwmni ailgylchu lleol, i lansio prosiect i dreialu defnyddio cewynnau wedi'u hailgylchu i arwynebu ein ffyrdd.

Mae'r prosiect arloesol hwn yn mynd i'r afael â dwy her ar yr un pryd: dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi a'r angen am gynnal a chadw ffyrdd mewn modd cynaliadwy. Drwy ddefnyddio ffibrau cewynnau wedi'u hailgylchu yn hytrach na deunyddiau traddodiadol, nod y cyngor yw:

  • Lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi: Llwyddodd y prosiect cyntaf i ddargyfeirio 4 tunnell o gewynnau, sef tua 80,000 o gewynnau, o safleoedd tirlenwi, o ystyried bod Sir Gaerfyrddin wedi casglu 6 miliwn o gewynnau yn 2023 yn unig!
  • Creu ffyrdd cryfach sy'n para'n hwy: Mae'r ffibrau cewynnau wedi'u hailgylchu yr un mor effeithiol â deunyddiau confensiynol heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae'r prosiect treialu cychwynnol ar y B4336 ym Mhont-tyweli ym mis Mawrth 2024 yn ddechrau addawol. Cafodd cewynnau wedi’u defnyddio eu casglu gan y Cyngor a'u hailgylchu yng nghyfleuster Nappicycle yng Nghapel Hendre, lle cafodd y gwastraff ei droi'n belenni ffibrog. Yna cafodd y pelenni hyn eu cludo i safle ein contractwr GD Harries yn yr Eglwys Lwyd i'w cynnwys mewn deunydd arwynebu Asffalt Mastig Carreg (SMA) ac yna ei osod i wella wyneb y ffordd.

Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o economi gylchol leol ar waith. Yn lle anfon cewynnau gwastraff i safleoedd tirlenwi, maent wedi dod yn adnodd gwerthfawr i wella ein seilwaith priffyrdd. Mae'r prosiect hwn yn lleihau ein dibyniaeth ar adnoddau crai ac yn creu system rheoli gwastraff fwy cynaliadwy.

Drwy sicrhau nad yw cewynnau yn mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau'r defnydd o ddeunyddiau newydd, mae'r prosiect hwn yn helpu i leihau ein hôl troed carbon cyffredinol. Mae ailgylchu a gweithgynhyrchu cynnyrch yn lleol yn golygu bod angen llai o gludo a phrosesu, gan arwain at amgylchedd glanach ac iachach.

Os yw'r prosiect yn llwyddiannus, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwriadu ehangu'r fenter hon, gan baratoi'r ffordd at ddyfodol mwy cynaliadwy.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan-Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

"Mae'r fenter hon yn dyst i'n hymrwymiad i gyfrifoldeb ac arloesedd amgylcheddol. Drwy roi pwrpas newydd i gewynnau wedi’u defnyddio, nid lleihau gwastraff yn unig rydyn ni'n ei wneud, ond rydyn ni hefyd yn ysbrydoli newid cadarnhaol yn y ffordd rydyn ni'n rheoli gwastraff yn gyfan gwbl."