Academi Gofal y Cyngor yn chwilio am yr ymgeiswyr diweddaraf

29 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn awr yn chwilio am ei bedwaredd garfan o hyfforddeion i ymuno â'r Academi Gofal, sy'n cynnig cyfleoedd cyffrous i'r rheiny sydd am gael gyrfa ym maes gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol.

Mae'r Academi yn agored i unrhyw un sydd dros 18 oed ac yn darparu hyfforddiant, cymorth ac arweiniad i ymgeiswyr llwyddiannus, gan eu galluogi i ennill cyflog wrth ddysgu a dewis y llwybr gyrfa sydd fwyaf addas iddynt.

Mae 12 wedi cymryd rhan ers i'r Academi ddechrau yn 2022, ac mae rhai ohonynt yn dal i ddatblygu eu sgiliau o fewn y rhaglen ar ôl cwblhau Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan (AWIF) ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â chymhwyster iechyd a gofal cymdeithasol lefel dau (oedolion). Mae'r hyfforddeion presennol bellach yn gwneud cynnydd da o ran y cymhwyster lefel tri yn eu dewis faes, tra bo eraill wedi llwyddo i gael gwaith yn y sector neu wedi symud ymlaen i'r rhaglen gwaith cymdeithasol oherwydd y sgiliau a'r profiad enillwyd yn yr Academi Gofal.

Drwy gyfuniad o addysg a hyfforddiant yn y swydd mewn rolau sy'n cefnogi oedolion a phlant, mae'r Academi Gofal yn caniatáu dealltwriaeth drylwyr o'r sector ac yn darparu cyfleoedd i archwilio'r amrywiaeth o rolau gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol sydd ar gael. Mae hefyd yn galluogi ymgeiswyr llwyddiannus i weithio'n agos gydag ystod o weithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys Therapyddion Galwedigaethol, Meddygon, Nyrsys a Ffisiotherapyddion.

Gallai ymgeiswyr llwyddiannus ennill gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster rheoli lefel pump, ond ceir hefyd gyfleoedd drwy gydol y broses i archwilio rolau eraill o fewn y sector os nad yw cwblhau gradd yn addas i chi.

Darperir cymorth hefyd i ymgeiswyr llwyddiannus wella eu sgiliau Cymraeg yn ogystal ag annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r iaith yn y gweithle.

Mae 10 gwers yrru am ddim i helpu i gael ymgeiswyr llwyddiannus ar y ffordd ar gael hefyd.

Rhaid i bob ymgeisydd fod ag o leiaf ddau TGAU (gradd A* - D) neu gymhwyster cyfwerth mewn Cymraeg, Saesneg neu Fathemateg.

Mae sesiynau gwybodaeth ar-lein hefyd ar gael i unrhyw un sydd am ddysgu mwy am yr Academi Gofal:

  • Dydd Mawrth 4 Mehefin 6.30pm
  • Dydd Mercher 5 Mehefin 9.30am
  • Dydd Gwener 7 Mehefin 11am
  • Dydd Mercher 12 Mehefin 6.30pm
  • Dydd Iau 13 Mehefin 1pm
  • Dydd Mawrth 18 Mehefin 1pm
  • Dydd Iau 20 Mehefin 10am
  • Dydd Iau 20 Mehefin 5.30pm

Dywedodd Bryn, hyfforddai o dan yr Academi Gofal:

Mae'r Academi Gofal wedi bod yn ffordd wych i mi ddatblygu sgiliau a gwybodaeth newydd mewn maes sy'n rhoi llawer o foddhad. Mae cael y cyfle i weithio mewn amrywiaeth o lefydd wedi fy helpu i wneud cysylltiadau, dod yn fwy hyderus, a datblygu sylfaen gadarn o wybodaeth a fydd o help i mi ac i'm cyfleoedd am yrfa am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Avril Bracey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Caerfyrddin:

Rydym yn chwilio am bobl frwdfrydig sydd ag agwedd gadarnhaol i gymryd y cam cyntaf cyffrous hwn mewn gyrfa newydd a gwneud cais i fod yn rhan o'n proses Academi Gofal 2024.

Mae'r Academi yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy i'r rheiny sydd am gael gyrfa mewn gwaith cymdeithasol neu ofal cymdeithasol, a chaiff ymgeiswyr llwyddiannus eu cefnogi drwy gydol y broses.”

Am ragor o wybodaeth, i gofrestru ar gyfer sesiwn wybodaeth ar-lein neu i wneud cais ewch i Ymunwch â'r Academi Gofal (llyw.cymru)