Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
231 diwrnod yn ôl
Bydd yr Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu nesaf yn cael eu cynnal ddydd Iau, 2, Mai 2024.
Mae Swyddog Canlyniadau Cyngor Sir Ceredigion, Eifion Evans, wedi cael ei benodi'n Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu ar gyfer Ardal Heddlu Dyfed-Powys. Cewch fanylion cynhwysfawr am yr etholiad hwn ar Wefan Ceredigion Yn agor mewn tab newydd.
Mae Swyddog Canlyniadau'r Ardal Heddlu yn gyfrifol am gynnal etholiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu, yn yr Ardal Heddlu, sef Ardal Heddlu Dyfed-Powys yn yr achos hwn.
Mae Ardal Heddlu Dyfed-Powys wedi'i rhannu'n bedair ardal sy'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys.
Bydd gwybodaeth a hysbysiadau swyddogol am etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, cyn ac ar ôl y bleidlais, yn cael eu cyhoeddi yma.