Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Calan Mai
236 diwrnod yn ôl
Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc Calan Mai.
Rhowch eich sbwriel mas cyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer. Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.
Byddwn yn ymdrechu i gwblhau pob rownd, ond gallai prinder adnoddau olygu nad yw rhai casgliadau’n cael eu gwneud.
Bydd y canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nantycaws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman) a Hendy Gwyn ar agor ar Ddydd Llun Gwyl y Banc. Gallwch weld eu horiau agor yma.
Ewch i'r wefan i wirio eich diwrnod casglu, ac i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.
Diolch yn fawr am ailgylchu.