Digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman
240 diwrnod yn ôl
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn delio â digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.
Mae tri o bobl wedi cael eu hanafu ac maen nhw'n derbyn triniaeth.
Mae un person wedi cael ei arestio ac nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau ar y safle ac mae'r ysgol wedi cau wrth i'r ymchwiliad barhau.
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r ysgol a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Rydym yn ymwybodol bod fideo o'r digwyddiad yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd. Gofynnwn i hyn gael ei ddileu er mwyn osgoi dirmyg llys a gofid i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Gofynnwn i bobl beidio â dyfalu ymhellach wrth i ymchwiliad yr heddlu barhau.
Mae aelodau teulu yr holl unigolion a gafodd eu hanafu wedi cael gwybod. Rydym am sicrhau rhieni a’r cyhoedd fod y digwyddiad dan reolaeth.