Cwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost
245 diwrnod yn ôl
Os nad ydych yn siŵr sut i gwblhau a dychwelyd eich pleidlais bost, dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gwblhau eich pleidlais bost:
- Cwblhewch y datganiad pleidlais bost gyda'ch llofnod a'ch dyddiad geni.
- Cwblhewch eich papur pleidleisio gyda'ch dewis o ymgeisydd.
- Datgysylltwch y papur pleidleisio o'r datganiad a rhowch eich papur pleidleisio yn amlen A gyda chefn y papur pleidleisio yn dangos drwy'r ffenestr.
- Rhowch amlen A i mewn yn amlen B a hefyd rhowch y datganiad yn yr amlen hon gyda chefn y datganiad yn wynebu'r ffenestr fel bod cyfeiriad y Swyddog Canlyniadau Lleol yn dangos.