Y Cyngor yn gofyn am farn ar sut mae tai'n cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin
284 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i breswylwyr ddweud eu dweud ar y ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn y sir.
Y llynedd (20 Chwefror 2023), roedd Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo Polisi Dyrannu Brys i helpu i fynd i'r afael â'r sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, lle roedd y Cyngor, fel roedd holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru, yn wynebu galw cynyddol am dai cymdeithasol yn uwch na lefel y cyflenwad.
Yn dilyn y cynllun peilot llwyddiannus o ran y Polisi Dyrannu Brys, mae'r Cyngor bellach yn ceisio gwneud ei ddull newydd o ddyrannu tai cymdeithasol yn gyffredin ac yn ceisio barn ar y newidiadau y mae wedi'u gwneud yn y Polisi Brys.
Mae'r Polisi Dyrannu Brys yn cynnwys:
- Newidiadau i'r rheiny yr ystyrir bod angen tai arnynt ar frys
- Caniatáu i dai gael eu paru'n uniongyrchol ag ymgeiswyr addas sydd â'r angen mwyaf
- Blaenoriaethu dyraniadau i'r rhai sydd â chysylltiad cymunedol ag ardal benodol
- Caniatáu i'r Cyngor gofrestru grwpiau penodol o bobl o dan gategori 'dim ffafriaeth'
- Gofyn i ymgeiswyr ailgofrestru bob 6 mis
Mae'r Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol yn amlinellu'r ffordd y caiff tai cymdeithasol eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin, gan weithredu dull cyffredin gyda landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill (Cymdeithasau Tai) sy'n gweithredu o fewn y sir.
Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Aelod Cabinet dros Gartrefi:
Mae'r Polisi Dyrannu Brys a fabwysiadwyd y llynedd wedi galluogi'r Cyngor i ddarparu tai addas i'r rhai sydd â'r angen mwyaf yn gynt nag erioed o'r blaen. Rydym bellach yn gofyn am farn preswylwyr i helpu i lunio'r polisi presennol a gwneud diweddariadau pwysig i'r ffordd rydym yn dyrannu tai i'r rhai sydd eu hangen fwyaf.”
I ddweud eich dweud ynghylch y ffordd y mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn Sir Gaerfyrddin