Tynnu arwyddion ffordd yn anghyfreithlon yn 'beryglus ac anghyfrifol’

184 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn fwyfwy pryderus am gyfres o ddigwyddiadau lle mae arwyddion ffordd wedi cael eu tynnu i lawr yn anghyfreithlon, gydag achos nodedig yn Llangadog.

Dros gyfnod o wythnos, tynnwyd 7 o bostion ac arnynt arwyddion ffordd i lawr yn anghyfreithlon yn y pentref a'r cyffiniau, gan godi pryderon difrifol am ddiogelwch ar y ffyrdd oherwydd bod mwy o berygl bod gwrthdrawiad traffig yn digwydd.

Ymhlith yr arwyddion rhybuddio a dynnwyd i lawr mae arwydd terfyn cyflymder cenedlaethol, arwydd atgoffa terfyn cyflymder cenedlaethol, arwydd tro dwbl i'r chwith yn gyntaf, arwydd cyffordd o'ch blaen, ac arwydd terfyn cyflymder o 20mya.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynorthwyo'r Heddlu yn eu hymchwiliadau ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai fod o gymorth i'r Heddlu gyda'r mater hwn i gysylltu drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod hwn: DP-20240216-105

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: 

Yn ogystal â bod yn anghyfreithlon, mae'r weithred ddifrifol hon o fandaliaeth yn achosi risg sylweddol i fywyd gan mai pwrpas yr arwyddion hyn yw rhoi gwybodaeth i yrwyr am gyflwr y ffordd o'u blaenau. Gallai diffyg arwyddion gyfrannu at wrthdrawiad traffig.
Nid yn unig y mae tynnu'r arwyddion hyn i lawr yn anghyfrifol ac yn beryglus i ddefnyddwyr ffyrdd, ond mae gosod rhai eraill yn eu lle yn gostus iawn i'r awdurdod lleol - gan roi mwy o bwysau byth ar y pwrs cyhoeddus.
Felly os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth a allai helpu'r Heddlu gyda'u hymchwiliad, rwy'n eich annog i roi gwybod iddyn nhw ar unwaith.”