Strategaeth Newydd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar yng Ngorllewin Cymru

280 diwrnod yn ôl

Mae Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ar y cyd â phartneriaid yn y trydydd sector, wedi lansio Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar 2022-26 sy'n dangos eu hymrwymiad i roi plant wrth wraidd gwasanaethau integredig rhagorol.

Nod y strategaeth, a gafodd ei lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2024, yw sefydlu gwasanaethau mamolaeth a blynyddoedd cynnar integredig ar gyfer pob plentyn, trwy gydweithio agos rhwng awdurdodau lleol, partneriaid trydydd sector, a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae integreiddio gwasanaethau a nodi anghenion yn gynnar yn ganolog i'r dull o wella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer plant a'u teuluoedd.

Clywodd y cynrychiolwyr oedd yn nigwyddiad lansio Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar 2022-26 gan siaradwyr ysbrydoledig a gyflwynodd eu hachosion dros drawsnewid gwasanaethau mamolaeth a blynyddoedd cynnar i ddarparu cefnogaeth ddi-dor ac amserol i deuluoedd ledled y rhanbarth.  

Pwysleisiodd Dr. Iram Siraj OBE o Brifysgol Rhydychen arwyddocâd datblygiad plentyndod cynnar a'r angen am wasanaethau integredig, gan danlinellu pwysigrwydd cydweithredu rhwng asiantaethau, cyfranogiad rhanddeiliaid, a nodi'n gynnar y plant sydd mewn perygl.  Siaradodd hi hefyd am anawsterau ariannol teuluoedd o ran cael gofal plant fforddiadwy.

Gan hoelio sylw ar raglen y 1000 Diwrnod Cyntaf yng Nghymru, soniodd Amy McNaughton, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus rhaglen y 1000 Diwrnod Cyntaf, pa mor bwysig oedd strategaeth iechyd cyhoeddus i helpu rhieni.

Wrth siarad, amlygwyd gwerth ymagwedd seiliedig ar le gan Claire Law, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Datblygiad Cynnar Plant, a hynny o ran gwella canlyniadau i blant a'u teuluoedd.

Roedd y digwyddiad lansio hefyd yn gyfle i ddangos sut roedd teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ar draws y rhanbarth wedi elwa ar fodel integredig seiliedig ar le ar gyfer darparu gwasanaethau mamolaeth a blynyddoedd cynnar.

Mae ymchwil y siaradwyr gwadd i ddatblygiad plentyndod cynnar, effaith tlodi, a datblygu polisi cynhwysol yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar. Mae'r lansiad hwn yn nodi dechrau taith gyffrous iawn i weithwyr proffesiynol a theuluoedd ledled y rhanbarth, a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau cenedlaethau'r dyfodol.

Darllenwch Strategaeth Mamolaeth a Blynyddoedd Cynnar Gorllewin Cymru am ragor o wybodaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Jane Tremlett:

Mae'n anrhydedd gweld strategaeth fydd yn rhoi cymorth a chyfleoedd hanfodol i'r rhai sydd mewn angen yn cael ei lansio. Roedd y gynhadledd yn llawn unigolion hynod sy'n ysbrydoliaeth i'n hymdrechion parhaus. Gyda'n gilydd, rydym yn creu cymuned lle gall pob teulu a phlentyn lwyddo.”

Llun - Cefn (chwith i dde): Sharon Buckle, Liz Wilson, Iwan Davies, Mari Jefferis, Noeline Thomas, Caryl Alban.

Blaen (chwith i dde): Dr Luke Jones, Dr Iram Siraj OBE, Amy McNaughton, Helen Mary Jones