Stephen Williams yn cael ei ethol yn isetholiad ward Elli

184 diwrnod yn ôl

Mae Stephen Williams wedi cael ei ethol fel Cynghorydd newydd ward Elli ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin.

Cynhaliwyd isetholiad ddydd Mercher, 6 Mawrth 2024, yn dilyn ymddiswyddiad y cyn-Gynghorydd John Jenkins.

Mae canlyniadau'r isetholiad fel a ganlyn:

Steve Beckett, Plaid Cymru – 48

Sharon Burdess, Annibynnol – 23

Wayne Erasmus, Gwlad – Plaid Annibyniaeth Cymru – 2

Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru – 16

Nick Pearce, Llafur Cymru – 145

Hettie Sheehan, Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) – 27

Richard Williams, Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru – 151

Stephen Williams, Annibynnol – 211

Nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd – 1  

Roedd 36.43%. wedi pleidleisio

Mae Stephen Williams hefyd wedi'i ethol i gynrychioli ward Elli yng Nghyngor Tref Llanelli.