Rheoli Pluen Parot yng Nghamlas Pen-bre

173 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dechrau ar y gwaith o reoli'r planhigyn ymledol Pluen Parot (Myriophyllum aquaticum) a geir yng Nghamlas Pen-bre.

Mae'r prosiect hwn nid yn unig yn mynd i'r afael ag effaith ecolegol y planhigyn ond hefyd yn ystyried yr heriau unigryw a ddaw yn sgil lleoliad y gamlas, ochr yn ochr â llwybr teithio llesol poblogaidd.

Yn ystod y broses o gael gwared ar y planhigyn Pluen Parot, rhoddir ystyriaeth ofalus i bresenoldeb poblogaeth iach o lygod y dŵr (Arvicola amphibius)), rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae cloddiau'r gamlas, sy'n cael eu defnyddio gan lygod y dŵr, yn cael eu hosgoi gan gontractwyr arbenigol ac mae'r gwaith yn cael ei wneud y tu allan i'r tymor nythu adar.

Mae contractwyr profiadol wedi dechrau ar y gwaith o ddefnyddio peiriant cloddio â chribin i fynd drwy'r gamlas i gasglu a chodi'r planhigyn allan o'r gamlas. Yna caiff deunydd y planhigyn, gan gynnwys y gwreiddiau, eu gosod yn ofalus mewn lleoliad addas a'i leinio i atal unrhyw aildyfiant posibl.

Mae swm sylweddol y planhigyn, sydd wedi cael ei godi o ddwy ran fach o'r gamlas yn gam sylweddol tuag at reoli'r planhigyn Pluen Parot, ond bydd y Cyngor yn parhau i fonitro a mynd i'r afael ag unrhyw dyfiant posibl o'r planhigyn ar y safle.

Gyda'r rhan fwyaf o'r planhigyn wedi'i waredu, bydd swyddogion yn gallu rheoli unrhyw aildyfiant y flwyddyn nesaf yn haws a mabwysiadu'r dull o'i symud mewn lleoliadau eraill.


Mae'r gwaith o gael gwared ar y Pluen Parot o Gamlas Pen-bre wedi'i ariannu gan fenter Lleoedd Lleol ar gyfer bioamrywiaeth Llywodraeth Cymru, ac ymgynghorwyd â Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch y {8}dull rheoli arfaethedig a'i gymeradwyo.

Mae'r gwaith cadwraeth rhagweithiol hwn yn cyd-fynd â thrydydd amcan llesiant y Cyngor Sir, sef galluogi ei gymunedau a'i amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o allu dechrau ar y gwaith pwysig hwn o ddychwelyd Camlas Pen-bre i gyflwr a fydd yn galluogi bioamrywiaeth y gamlas i wella.