Llongyfarchiadau i Chris Rees ar ddathlu 50 mlynedd o fasnachu ym Marchnad Caerfyrddin
274 diwrnod yn ôl
Mae Chris Rees, o Deli Caerfyrddin gan Albert Rees, wedi bod yn gweithio yn y farchnad ers 1974 gyda'i rieni, Albert a Brenda Rees.
Dyma'r hyn y dywedodd Chris am ei gyfnod ym marchnadoedd Sir Gaerfyrddin:
Rwyf wedi gweithio mewn llawer o farchnadoedd gan gynnwys Aberhonddu, Aberteifi, Abergwaun, Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod, felly rwyf wedi gweld llawer o newidiadau dros yr 50 mlynedd diwethaf, hyd yn oed yn gweithio mewn 4 marchnad wahanol yng Nghaerfyrddin!
Mae Deli Caerfyrddin gan Albert Rees yn enwog am ei rysáit Ham Caerfyrddin sydd wedi'i drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, chwedl y teulu Rees oedd, pan ddaeth y Rhufeiniaid i Gymru, gan ymgartrefu yng Nghaerfyrddin, eu bod wedi dwyn y rysáit a dychwelyd i'r Eidal, gan ei ailenwi yn Parma Ham!
Mae Ham Caerfyrddin wedi cael ei gydnabod a'i ganmol yn rhyngwladol, hyd yn oed yn cael ei weini mewn Partïon Gardd Brenhinol. Dywedodd Chris:
Mae wedi bod yn bleser dros y blynyddoedd i wasanaethu a dod i adnabod rhai pobl wych, hyd yn oed dod yn ffrindiau gyda rhai! Rwyf wedi cwrdd â'r Brenin Siarl, y Frenhines Camilla a'r Dywysoges Anne. Rwyf wedi bod i Rif 10 Stryd Downing i ddangos ein Ham Caerfyrddin.
Dywedodd Jason Jones, Pennaeth Adfywio Cyngor Sir Caerfyrddin:
Mae Chris a'i fusnes teuluol yn cael ei gydnabod yn dda yng Nghaerfyrddin, rwy'n ei longyfarch ar 50 mlynedd o wasanaeth ac yn diolch iddo am ei bresenoldeb yn ein marchnadoedd.
Hoffai Chris fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'w gwsmeriaid ffyddlon am eu cefnogaeth barhaus.