Lleihau allyriadau carbon fflyd cerbydau y Cyngor

216 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo i gael £431,632 o gyllid gan Lywodraeth Cymru i gaffael 40 o gerbydau trydan newydd sbon ar gyfer ei wasanaethau rheng flaen.

Mae 30 o faniau trydan a 10 car trydan wedi'u prynu yn lle cerbydau disel, a'r disgwyl yw byddant i'w gweld ar ffyrdd Sir Gaerfyrddin yn fuan iawn.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Dyma gam i'r cyfeiriad cywir i'r Cyngor Sir o ran lleihau allyriadau ei fflyd cerbydau gwasanaeth, ac rwy'n edrych ymlaen at weld ein cerbydau trydan newydd yn cael eu defnyddio ym mhob rhan o'r sir, er mwyn gwasanaethu ein cymunedau a'n trigolion.”