Gwybodaeth am Newid o Gopr i Lais Digidol – Sioe Deithiol BT

178 diwrnod yn ôl

Mae BT yn gwahodd eu cwsmeriaid i ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am linellau tir yn mynd yn ddigidol

 

Efallai eich bod eisoes wedi clywed bod llinellau tir yn y DU yn mynd yn ddigidol erbyn 2025. Er nad yw'r llinell dir yn diflannu, rydym yn gwybod y gallai fod gennych gwestiynau neu yr hoffech wybod rhagor am beth mae hyn yn ei olygu i'ch ffôn cartref a gwasanaethau eraill sy'n cysylltu â'ch llinell dir, er enghraifft Teleofal, larymau gwddf a larymau lladron.

 

Mae'n hynod bwysig bod eich cwmni ffôn yn gwybod pa wasanaethau rydych yn eu defnyddio trwy'ch llinell dir, fel y gallant eich helpu trwy unrhyw gamau sydd eu hangen i wneud y newid.

 

Mae BT yn gwahodd eu cwsmeriaid i newid i'w wasanaeth ffôn cartref digidol fesul rhanbarth ac maent yn cynnal digwyddiadau galw heibio lleol yn Sir Gaerfyrddin lle bydd ganddynt dîm wrth law sy'n gallu dweud wrthych beth yw Llais Digidol, pam mae'r newid yn angenrheidiol a beth mae'n ei olygu i chi.

 

Does dim rhaid archebu lle ymlaen llaw - dewch draw! Dyma'r digwyddiadau galw heibio sy'n cael eu cynnal yn y sir ym mis Ebrill:

15 – 16 Ebrill

Morrisons Llanelli, Parc Adwerthu Pemberton, Cylchfan Trostre, Llanelli 10am - 4pm

17 - 18 Ebrill

Canolfan Arddio Caerfyrddin, Rhiw'r Myrtwydd, Pen-sarn, Caerfyrddin 10am - 4pm

19 – 22 Ebrill

Llyfrgell Rhydaman, 3 Stryd y Gwynt, Rhydaman 10am - 4pm

 

Os ydych yn byw ar gyrion Sir Gaerfyrddin neu'n gweithio y tu allan iddi, efallai y byddai'n haws ichi fynd i sesiwn mewn ardal wahanol.  Dyma restr lawn o'r digwyddiadau galw heibio yng Nghymru ichi ddewis ohonynt:

3 Ebrill

Llyfrgell Glan-yr-afon, ger Sgwâr yr Alarch, Hwlffordd 10am - 2pm

3 – 4 Ebrill

Y Sgwâr Coch (ger Waterstones), Y Stryd Fawr, Y Fenni 10am - 4pm

3 – 4 Ebrill

Morrisons y Drenewydd, Pool Road, Y Drenewydd 10am - 4pm

5 Ebrill

Morrisons y Trallwng, Stryd Aberriw, Y Trallwng 10am - 4pm

5 - 8 Ebrill

Co-op Pentre-bach, Brown Street, Pentre-bach, Merthyr Tudful 10am - 4pm

8 – 9 Ebrill

Llyfrgell Dolgellau, Ffordd y Bala, Dolgellau 10am - 4pm

9 Ebrill

Llyfrgell Aberdâr, Green Street, Aberdâr 10am - 2pm

9 – 10 Ebrill

Morrisons Port Talbot, Parc Diwydiannol Baglan, Heol Christchurch, Port Talbot 10am - 4pm

10 Ebrill

Stadiwm Dinas Caerdydd, Heol Lecwydd, Caerdydd 10am - 3pm

10 – 11 Ebrill

Llyfrgell Porthmadog, Stryd y Llan, Porthmadog 10am - 4pm

11 Ebrill

Llyfrgell Ganolog Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd 10am - 2pm

11 – 12 Ebrill

Canolfan Arddio Dobbies Abertawe, Ffordd Siemens, Bôn-y-maen 10am - 4pm

15 – 16 Ebrill

Morrisons Llanelli, Parc Adwerthu Pemberton, Cylchfan Trostre, Llanelli 10am - 4pm

15 – 16 Ebrill

Morrisons Caernarfon, Ffordd y Gogledd, Caernarfon 10am – 4pm

17 Ebrill

Llyfrgell Dinbych, Sgwâr y Neuadd, Dinbych 10am - 2pm

17 - 18 Ebrill

Morrisons Caergybi, Penrhos, Caergybi 10am - 4pm

17 - 18 Ebrill

Canolfan Arddio Caerfyrddin, Rhiw'r Myrtwydd, Pen-sarn, Caerfyrddin 10am - 4pm

18 Ebrill

Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam 10am - 3pm

19 Ebrill

Neuadd y Dref, Canolfan Alun R. Edwards, Sgwâr y Frenhines, Aberystwyth 10am - 2pm

19 – 22 Ebrill

Llyfrgell Rhydaman, 3 Stryd y Gwynt, Rhydaman 10am - 4pm

22 – 23 Ebrill

Co-op Llanrwst, Stryd yr Aradr, Conwy 10am - 4pm

23 Ebrill

Y Senedd, Caerdydd ar gyfer Aelodau o'r Senedd

24 Ebrill

Llyfrgell Bro Ogwr, Canolfan Bywyd Cwm Ogwr, Cwrt Gwalia 10am - 2pm

24 Ebrill

Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro, Sgwâr Albion, Doc Penfro 10am - 4pm

24 – 25 Ebrill

Canolfan Siopa Bay View, Bae Colwyn 10am - 4pm

25 – 26 Ebrill

Llyfrgell Aberteifi, Stryd Morgan, Aberteifi 10am - 4pm

26 – 29 Ebrill

Parc Siopa Prestatyn, Ffordd Llys y Nant, Prestatyn 10am - 4pm

29 Ebrill

Co-op Llanbedr Pont Steffan, Stryd y Bont Isaf, Llanbedr Pont Steffan 10am - 4pm

30 Ebrill

Morrisons Aberhonddu, Free St, Aberhonddu 10am – 4pm

30 Ebrill

Llyfrgell yr Wyddgrug, Yr Wyddgrug 10am - 4pm

   

 

Bydd tîm BT yn falch o ateb eich cwestiynau ynghylch hyn yn unrhyw un o'r digwyddiadau uchod.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys, cysylltwch â'ch Swyddog Ymgysylltu Band Eang lleol yn y lle cyntaf: bandeang@sirgar.gov.uk