Gwaith gwella i ddechrau ger cylchfan Heol y Sandy, Llanelli

176 diwrnod yn ôl

Disgwylir i waith gwella hirddisgwyliedig i'r A484, cylchfan Heol y Sandy yn Llanelli, ddechrau ddydd Llun, 18 Mawrth 2024, a fydd yn ceisio lleihau effaith traffig yn yr ardal leol, gwella dibynadwyedd amseroedd teithio trafnidiaeth gyhoeddus, gwella diogelwch ffyrdd ac annog newid i ddulliau teithio llesol.  

Ar ôl cwblhau’r gwaith, disgwylir y bydd trefn newydd cylchfan Heol y Sandy a'r ffyrdd sy'n arwain ati yn lleihau tagfeydd traffig ac felly'n gwella'r ansawdd aer yn yr ardal leol.

Pa waith sy'n cael ei wneud a sut fydd yn effeithio ar draffig yn lleol?

Er bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydnabod y bydd y gwaith ffordd a chau lonydd yn sgil hynny yn debygol o achosi oedi i ddefnyddwyr ffyrdd, bydd yr Awdurdod Lleol a'r contractwyr yn ymdrechu i darfu cyn lleied â phosibl. 

Mae'r dyddiadau canlynol yn amcangyfrif o linell amser y cynllun a gallent newid ychydig, yn dibynnu ar y gwahanol ffactorau sy'n gysylltiedig â phrosiect adeiladu o'r math hwn. 

Rhwng dydd Llun, 18 Mawrth a dydd Mercher 27 Mawrth, bydd contractwyr yn gwneud gwaith ar y ffordd sy'n arwain at y gylchfan i fynd i gyfeiriad y gorllewin, sef y B4304 o Ddoc y Gogledd. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd system rheoli traffig yn cynnwys cau un o'r lonydd a defnyddio system rheoli traffig sefydlog (arwyddion Stop/Go) yn ôl yr angen i sicrhau man gweithio diogel i weithwyr. Bydd maint y traffig yn cael ei fonitro wrth roi unrhyw system rheoli traffig ar waith a gwneir pob ymdrech i osgoi adegau sensitif, megis yr adeg brysuraf yn y bore a'r nos ac adegau hebrwng plant i’r ysgol ac oddi yno.

Yn ystod gwyliau'r Pasg, sef dydd Iau, 28 Mawrth i ddydd Llun y Pasg, 1 Ebrill, bydd y gwaith yn cael ei stopio ac ni fydd unrhyw system rheoli traffig yn cael ei gadael ar y safle.

Gan ailddechrau ddydd Mawrth, 2 Ebrill, bydd y gwaith yn parhau ar y ffordd sy'n arwain at y gylchfan i fynd i gyfeiriad y gorllewin drwy adeiladu troedffordd newydd a fydd yn cynnwys adlinio croesfan fotymog ac ynys yn y canol. Bydd croesfan fotymog hefyd yn cael ei hadeiladu ar y lôn o'r gylchfan i fynd i gyfeiriad y dwyrain i Ddoc y Gogledd. Unwaith eto, bydd y system rheoli traffig yn cynnwys cau un o'r lonydd a defnyddio arwyddion Stop/Go yn ôl yr angen a gwneir pob ymdrech i osgoi adegau sensitif. Rhagwelir y bydd y gwaith ar y rhan hon yn cael ei gwblhau erbyn dydd Mawrth, 9 Ebrill.

Rhwng dydd Mercher, 10 Ebrill a dydd Llun, 15 Ebrill, bydd contractwyr yn ailadeiladu'r ynys draffig a'r croesfannau botymog ger cyffordd Heol Pibydd â’r gylchfan. Nid oes bwriad i gyflwyno system rheoli traffig sefydlog yn ystod y cam hwn, ond efallai y bydd angen cau un o'r lonydd.

Rhwng dydd Mawrth, 16 Ebrill a dydd Gwener, 26 Ebrill, bydd contractwyr yn ailadeiladu'r ynys draffig a'r croesfannau botymog ger cyffordd Heol Pen-bre â’r gylchfan. Nid oes bwriad i gyflwyno system rheoli traffig sefydlog yn ystod y cam hwn, ond efallai y bydd angen cau un o'r lonydd.

Ar ôl cwblhau'r gwaith uchod, bydd y cynllun hwn yn gwella diogelwch wrth groesfannau cylchfan Heol y Sandy ac yn lleihau tagfeydd ar y ffordd sy'n arwain at y gylchfan i fynd i gyfeiriad y gorllewin, o Ffordd Gyswllt Arfordirol y B4304.

Pam mae'r gwelliannau hyn yn cael eu gwneud?

Cydnabyddir ers tro bod yr A484 yn Heol y Sandy, Llanelli yn fan problemus iawn o ran tagfeydd yn Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad, mae tagfeydd mawr a materion ansawdd aer i'w cael ar y rhan hon o'r ffordd sy'n effeithio ar ddibynadwyedd amseroedd teithio ar lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus allweddol.

Drwy waith ymgysylltu lleol ac ymgyngoriadau â'r cyhoedd, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwerthuso nifer o opsiynau ar gyfer y safle. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cynnal asesiadau technegol manwl ynghylch oddeutu 20 o wahanol opsiynau i benderfynu ar yr ateb hirdymor mwyaf priodol ac effeithiol. O ystyried yr angen am ymyrraeth effeithiol, cyn gynted â phosibl, a'r awydd i fynd i'r afael ag effeithiau ar drigolion Llanelli a'r amgylchedd ehangach, gwerthuswyd rhestr fer o opsiynau ac ymgynghorwyd ynghylch opsiwn a ffefrir.

A oes unrhyw waith gwella pellach wedi'i gynllunio ar ôl hyn?

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyflwyno cais i Gronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru i ariannu tri cham pellach o waith gwella ar yr A484, Heol y Sandy rhwng cylchfan Heol y Sandy a Choedlan Denham. Mae cyflawni'r tri cham hyn, a oedd yn destun ymgynghoriad helaeth â thrigolion yn 2021, yn amodol ar a yw'r cais yn llwyddiannus.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'n newyddion da iawn y bydd gwaith yn mynd rhagddo cyn bo hir i wella'r rhan hon o Heol y Sandy yn Llanelli. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r trigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd wrth i ni wneud y gwaith pwysig hwn – bydd y manteision hirdymor yn sicr yn gwneud iawn am yr anghyfleustra byrdymor i bawb."

Dywedodd y Cynghorydd Martyn Palfreman a'r Cynghorydd Edward Skinner, y ddau yn cynrychioli ward Hengoed:

Rydym yn llwyr groesawu cam cyntaf y gwelliannau i helpu i leddfu'r tagfeydd parhaus sydd wedi effeithio ar Heol y Sandy. Er ein bod yn hyderus y bydd gyrwyr, beicwyr a cherddwyr yn gweld gwahaniaeth cadarnhaol o ganlyniad i'r gwaith hwn, rydym am bwysleisio mai megis dechrau yw hyn ac y byddwn yn parhau i ddadlau'r achos ar ran trigolion i sicrhau bod cyllid ar gael i wneud rhagor o welliannau yn yr ardal.” 

Mae cyflawni'r gwaith gwella ar yr A484, cylchfan Heol y Sandy, yn cyd-fynd â thrydydd Amcan Llesiant Cyngor Sir Caerfyrddin, sef galluogi ei gymunedau a'i amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus.