Dweud eich dweud am ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2024-2030

177 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i'w drigolion roi eu barn am ei Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2024-2030.

Cliciwch yma i gael dweud eich dweud ar yr Ymgynghoriad ynghylch ein Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd

Drwy'r Ymgynghoriad, mae'r Cyngor Sir am gasglu gwybodaeth leol am ardaloedd sy'n dueddol o gael llifogydd, digwyddiadau llifogydd hanesyddol, a gwendidau sy'n benodol i gymunedau yn Sir Gaerfyrddin.

Mae eich cyfraniad at ein hymgynghoriad yn bwysig, gan fod gan drigolion a rhanddeiliaid wybodaeth unigryw am eu hardal leol yn aml a all gyfrannu at ddatblygu strategaeth effeithiol o ran llifogydd.

Mae Adran 10.7 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gyhoeddi ei strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd a'i gynlluniau ar gyfer rheoli perygl llifogydd.

Bydd y strategaeth, a gefnogir gan gynllun mwy tactegol, yn egluro sefyllfa bresennol yr Awdurdod Lleol o ran rheoli perygl llifogydd, ei nodau ar gyfer 2030 a sut y bydd y nodau hynny'n cael eu cyflawni.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

“Rydym yn gofyn i'r cyhoedd helpu i lunio ein polisïau a'n strategaethau rheoli llifogydd.
Drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, gall trigolion a rhanddeiliaid ddylanwadu ar ein dull o ymdrin â llifogydd yn ogystal â deall yn well y rhesymeg y tu ôl i fesurau arfaethedig, yr effeithiau posibl, a'r strategaeth yn gyffredinol.
“Hefyd bydd ymgynghori ynghylch y strategaeth leol ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn golygu bod modd lledaenu gwybodaeth am fesurau amddiffyn rhag llifogydd, systemau rhybuddio cynnar, cynlluniau ymateb brys, a gweithdrefnau gadael mewn argyfwng.
“Drwy gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, ein gobaith yw y bydd cymunedau'n dod yn fwy parod ac yn fwy gwydn i lifogydd.”

Mae Ymgynghoriad Cyngor Sir Caerfyrddin ynghylch ei Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2024-2030 ar agor tan 5pm ddydd Gwener, 12 Ebrill 2024.