Dathlu pen-blwydd y person hynaf yng Nghymru

224 diwrnod yn ôl

Mary Keir yw'r person hynaf yng Nghymru ac mae wedi dathlu ei phen-blwydd yn 112 oed yng Nghartref Preswyl Awel Tywi yn Llandeilo lle mae hi wedi bod yn byw dros y 12 mlynedd diwethaf.

Yng nghwmni ei ffrindiau a'i theulu, bu Mary'n dathlu drwy gael cinio rhost a threiffl sieri ac yna bwffe gyda'r nos.

Roedd disgyblion o Ysgol Ffairfach hefyd wedi ymweld â'r lle i ddathlu gyda Mary yn ogystal â Chôr Meibion Dinefwr a fu'n diddanu Mary a'r holl drigolion yn Awel Tywi gydag amrywiaeth o ganeuon.

Mae Mary yn dal i gyfrannu'n llawn at y gweithgareddau, yr adloniant a'r cyfarfodydd yn Awel Tywi, yn ogystal â helpu trigolion eraill. Mae hi hefyd yn dal i fod yn hoff iawn o gerddoriaeth, yn enwedig y piano, sydd wedi bod o ddiddordeb iddi gydol ei hoes.

Roedd hi'n arfer gweithio fel prif nyrs ward a nyrs ardal, ac roedd hi'n byw'n annibynnol yn Llansteffan nes ychydig cyn ei phen-blwydd yn 100 oed, ac yna symudodd hi i Gartref Preswyl Awel Tywi Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Dymuniadau gorau i Mary ar ei phen-blwydd yn 112 oed. Hoffwn ddiolch hefyd i'n tîm gwych o ofalwyr yn Awel Tywi am ddarparu gofal rhagorol i Mary, yn ogystal â holl drigolion y cartref”.

Bu Robert Keir, ei mab, a Sian Keir, ei merch-yng-nghyfraith, yn dathlu ei phen-blwydd gyda hi a dywedon nhw:

Mae Mary, ein mam a'n mam-yng-nghyfraith, yn gadarn ei hewyllys a'i phenderfyniad o hyd. Mae hi wedi cael gofal gwych yn Awel Tywi ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi popeth mae'r staff anhygoel yn ei wneud drosti bob dydd."