Cyngor yn darparu cartrefi newydd yng nghanol Caerfyrddin a Llanelli

177 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu 20 o gartrefi newydd yng Nghaerfyrddin a Llanelli fydd yn darparu llety i hyd at 60 o bobl.

Mae'r datblygiad newydd yn 5-8 Heol Spilman yng Nghaerfyrddin yn cynnwys dwy fflat dwy ystafell wely i bedwar person a 10 fflat un ystafell wely i ddau berson, a disgwylir i'r cartrefi newydd gael eu cwblhau ym mis Ebrill.

Mae hen adeilad yr YMCA yng nghanol tref Llanelli yn cynnwys wyth fflat dau ystafell wely i bedwar person a disgwylir i'r gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Ebrill hefyd.   Mae'r datblygiad hwn yn rhan o welliannau ehangach canol tref Llanelli Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Mae'r ddau gynllun wedi golygu trawsnewid hen adeiladau masnachol yn llety modern o ansawdd da, gyda phwyslais ar sicrhau'r effeithlonrwydd ynni gorau a lleihau biliau ynni.

Mae cartrefi Heol Spilman yn cael eu pweru gan drydan yn hytrach na gwres canolog nwy mwy traddodiadol, sy'n golygu ôl troed carbon llai ar gyfer pob cartref. Mae'r ddau ddatblygiad hefyd yn cynnwys lefelau uchel o inswleiddio o ansawdd sy'n golygu bod y cartrefi yn gynhesach am gyfnod hirach ac yn rhatach i'w gwresogi. Mae paneli haul hefyd wedi'u gosod i gynhyrchu eu hegni glân eu hunain yn ogystal ag LEDs i ddarparu goleuadau cost isel.

Bydd y cartrefi yn cael eu dyrannu yn seiliedig ar y Polisïau Gosod Lleol a grëwyd yn benodol ar gyfer datblygiadau Heol Spilman a'r YMCA. Mae'r Polisïau yn canolbwyntio ar ddarparu cartrefi i bobl leol gyda meini prawf penodol i ystyried materion lleol sy'n helpu i greu cymuned gynaliadwy gytbwys.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans Davies, Aelod Cabinet dros Gartrefi:

Bydd y cartrefi newydd yng nghanol Caerfyrddin a Llanelli yn darparu llety o safon i breswylwyr Sir Gaerfyrddin. Rwy'n falch iawn bod y ddau brosiect wedi cynnwys diweddaru a gwella adeiladau masnachol blaenorol yn gartrefi newydd sy'n effeithlon o ran ynni i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.”

Mae datblygiadau Heol Spilman a'r YMCA yn rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu 2,000 o gartrefi Cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf.