Cyngor yn cymryd camau gorfodi ynghylch troseddau amgylcheddol ledled Sir Gaerfyrddin
236 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fynd i'r afael â materion amgylcheddol, gan gynnwys tipio anghyfreithlon, taflu sbwriel a gadael baw ci, a rhoddwyd 29 o hysbysiadau cosb benodedig gwerth cyfanswm o £4,875 yn ystod mis Chwefror. Rhoddwyd 14 o hysbysiadau o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 hefyd.
Rhoddwyd yr hysbysiadau cosb benodedig canlynol o £125 am droseddau sbwriel:
- Rhoddwyd 11 o hysbysiadau cosb benodedig ar wahân i drigolion Sir Gaerfyrddin am ollwng eitemau amrywiol, gan gynnwys bagiau du o sbwriel, basgedi plastig ac eitemau gwydr ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Porth Tywyn
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Heol Mansant ym Mhont-iets am adael bag o wydr ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Carwe
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Gastell-nedd am roi gwastraff domestig mewn bin gwastraff masnach yng Nghapel Hendre
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Abertawe am ollwng cawell adar ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Porth Tywyn
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Gaerfyrddin am daflu stwmpyn sigarét allan o'i fan yn ystad ddiwydiannol Cross Hands
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Rydaman am daflu stwmpyn sigarét ar y llawr y tu allan i Tesco, Rhydaman
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Lanpumsaint am adael eitem drydanol ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Morrisons, Caerfyrddin
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Geredigion am daflu stwmpyn sigarét ar y llawr ym maes parcio McDonalds, Caerfyrddin
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Gaerfyrddin am ollwng dau fag o faw ci i lawr draen wrth ymyl y pafin ym Mhen-sarn, Caerfyrddin
Rhoddwyd nifer o hysbysiadau cosb benodedig o £400 am droseddau tipio anghyfreithlon:
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Erwau'r Garn yng Ngharwe am adael sawl bag du yn cynnwys gwastraff yng nghyfleuster ailgylchu Carwe.
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Lanelli am adael bag glas a oedd yn cynnwys gwastraff y cartref a bocs cardbord o eitemau yng nghyfleuster ailgylchu Porth Tywyn
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Sanclêr am ollwng dau fag sbwriel o wastraff y cartref yng nghyfleuster ailgylchu Sanclêr
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Gaerfyrddin am ollwng tri bag sbwriel du yn Heol Dŵr, Caerfyrddin
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Sanclêr am ollwng dau fag o ddillad ar y llawr yng nghyfleuster ailgylchu Sanclêr
Rhoddwyd hysbysiadau cosb benodedig i bobl am fethu â chydymffurfio â hysbysiadau cynhwysydd gwastraff:
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Lanelli pan gafodd ei fagiau eu halogi a'u gosod allan i'w casglu ar y diwrnod anghywir
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Gaerfyrddin pan gafodd bagiau eu halogi a'u gosod allan i'w casglu ar y diwrnod anghywir ac yn yr wythnos anghywir
- Rhoddwyd hysbysiad cosb benodedig i rywun o Borth Tywyn pan gafodd bagiau eu gosod allan i’w casglu ar yr amser anghywir ac ni chafodd eitemau gwastraff eu cynnwys yn ddigonol yn y bagiau
Rhoddwyd dau hysbysiad cosb benodedig o £100 hefyd am droseddau baw cŵn.
Rhoddwyd 35 o hysbysiadau i bobl yn y sir am fethu â chydymffurfio â chynllun casglu gwastraff Cyngor Sir Caerfyrddin o dan adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Rhoddwyd 14 o hysbysiadau i fusnesau yn y sir a oedd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau ar waith i'w gwastraff gael ei gasglu a'i waredu gan gludwr gwastraff awdurdodedig o dan adran 47 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
“Mae gwaith parhaus a chanlyniadau rhagorol Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol y Cyngor yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin.
Byddwn yn annog unrhyw un sy'n gwaredu gwastraff drwy'r gwasanaeth casglu o dŷ i dŷ neu mewn canolfannau ailgylchu i wneud hynny mewn modd cyfrifol.”
I roi gwybod am dipio anghyfreithlon ewch i wefan y Cyngor neu ffoniwch 01267 234567.