Cyngor yn chwilio am gymorth i adnabod unigolyn a welwyd yn cyflawni troseddau amgylcheddol
275 diwrnod yn ôl
Diolch i’r rhai sydd wedi ein helpu gyda’n hymchwiliadau. Mae enw wedi dod i law ac mae’r ymchwiliad hwn wedi ei gau bellach. Mae gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yn drosedd ac yn fater difrifol iawn i’r Cyngor. Ym mis Chwefror, cafodd 29 o hysbysiadau cosb benodedig eu cyflwyno gennym am dipio anghyfreithlon, taflu sbwriel a gadael baw ci Cyngor yn cymryd camau gorfodi ynghylch troseddau amgylcheddol ledled Sir Gaerfyrddin.
I roi gwybod am waredu gwastraff yn anghyfreithlon, ewch i wefan y Cyngor neu ffoniwch 01267 234567.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn chwilio am gymorth i adnabod unigolyn sydd wedi cael ei ffilmio'n cyflawni trosedd tipio anghyfreithlon.
Ar 7 Chwefror 2024, cafodd person ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng yn cerdded tuag at y clos biniau gwastraff ar gyfer Theatr y Ffwrnes gyda bag siopa. Yna mae'n taflu'r bag ar y llawr y tu allan i'r clos biniau ac yn cerdded i ffwrdd, er bod arwyddion ar y safle ynghylch tipio anghyfreithlon.
Mae llun llonydd wedi'i gymryd o deledu cylch cyfyng mewn perthynas â'r digwyddiad gan obeithio y gall pobl helpu i adnabod yr unigolyn.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:
Rydym yn gofyn i aelodau'r cyhoedd helpu i adnabod yr unigolyn sydd wedi'i ffilmio ar deledu cylch cyfyng. Mae ein Tîm Gorfodi Materion Amgylcheddol yn gweithio'n galed i sicrhau bod camau gorfodi yn cael eu cymryd ynghylch troseddau amgylcheddol lle bynnag y bo modd i helpu i gadw Sir Gaerfyrddin yn lân ac i atal troseddau yn y dyfodol.”
Os ydych yn gwybod pwy yw'r person hwn ffoniwch 01267 234567 neu anfonwch e-bost
Mae'r wybodaeth hon yn cael ei datgelu o dan yr eithriad rhag darpariaethau Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a geir yn Atodlen 2, Rhan 1, paragraff 2 (1) (c) o Ddeddf Diogelu Data 2018 gan y byddai peidio â datgelu'r delweddau hyn yn niweidio'r diben o ddal neu erlyn troseddwr.