Cyngor Sir Caerfyrddin yn Lansio Gwasanaeth Bws Bach y Wlad i fynd i'r afael â'r Bwlch Trafnidiaeth Wledig

173 diwrnod yn ôl

Yn dilyn ei gymeradwyo gan y Cabinet ddoe, ddydd Llun, 18 Mawrth 2024, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio Bws Bach y Wlad, menter newydd sydd â'r nod o wella hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig ledled Gogledd Sir Gaerfyrddin. Daw'r gwasanaeth hwn mewn ymateb i derfynu gwasanaeth Bwcabus, a ddaeth i ben oherwydd diffyg cyllid gan y Llywodraeth, gan adael bwlch yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin o ran gwasanaethau trafnidiaeth.

Bydd Bws Bach y Wlad, gwasanaeth sy'n mynd o bentref i bentref, yn rhoi buddion i breswylwyr gwledig drwy roi mwy o gyfleoedd iddynt ar gyfer teithio cyfleus a fforddiadwy. Gan weithredu fel cynllun peilot am 9 mis, pum niwrnod yr wythnos, bydd y gwasanaeth yn cynnig teithio rhatach am ddim a chyfraddau gostyngol i bobl ifanc, gan ei wneud yn fwy hygyrch i ystod ehangach o aelodau'r gymuned.

Sicrhaodd y prosiect gyllid hanfodol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan arddangos ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i fynd i'r afael â heriau trafnidiaeth mewn cymunedau gwledig. Prif nod y fenter yw cysylltu preswylwyr gwledig â lleoliadau lle mae cyfleoedd economaidd yn bodoli, gan feithrin twf a datblygiad yn y rhanbarth. Bydd y gwasanaeth hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu preswylwyr lleol wrth gael mynediad at wasanaethau hanfodol fel gofal iechyd, a siopa.

Gan ganolbwyntio i ddechrau ar ardaloedd o amgylch Pencader, Llandysul, Llanybydder a Chastellnewydd Emlyn, fel y nodwyd yn adroddiad 'Symud Sir Gâr Ymlaen', y Cyngor, nod y prosiect yw cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth ehangach 'Hwb Bach y Wlad' Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r Cyngor yn cydnabod lleihad yn y gwasanaethau yn yr ardaloedd hyn ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod gan breswylwyr opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus.

Er mwyn osgoi dyblygu a manteisio ar y rhwydwaith cyffredinol, bydd tîm y prosiect yn cydweithio'n agos â darparwyr Trafnidiaeth Cymunedol, Dolen Teifi a Green Dragon. Nod y bartneriaeth strategol hon yw sicrhau bod gwasanaethau'r dyfodol yn ategu'r rhwydwaith a fwriadwyd, gan gynnig ateb trafnidiaeth di-dor ac integredig er budd y gymuned gyfan. Bydd y gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleoedd cysylltu ar gyfer teithio ehangach.

Mae gwasanaeth Bws Bach y Wlad yn gam sylweddol tuag at wella cysylltedd gwledig, mynd i'r afael â bylchau trafnidiaeth, a hyrwyddo datblygiad economaidd yng Ngorllewin Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

“Rydym yn llawn cyffro i lansio gwasanaeth Bws Bach y Wlad - cam hanfodol tuag at fynd i'r afael ag anghenion trafnidiaeth ein cymunedau gwledig. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o fod wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun peilot gwych hwn am 9 mis.
Mae'r fenter hon yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i ddarparu opsiynau trafnidiaeth dibynadwy a chyfleus, meithrin datblygiad economaidd, a gwella ansawdd bywyd cyffredinol ein preswylwyr."

Bydd Bws Bach y Wlad yn cael ei lansio ar 29 Ebrill 2024. Gellir gweld manylion yr amserlen ar wefan y Cyngor.