Cyngor Sir Caerfyrddin i gynnal Digwyddiad Economi Gylchol Deg Tref yn Sero Caerfyrddin
288 diwrnod yn ôl
Mewn partneriaeth â Sero, Canolfan Hinsawdd a'r Amgylchedd yng Nghaerfyrddin, gwahoddir grwpiau cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin i ddigwyddiad economi gylchol sydd wedi'i drefnu ar gyfer 14 Mawrth 2024.
Bydd Sero yn mynd â ni drwy eu taith o sefydlu eu prosiectau presennol wrth iddynt arddangos eu hamrywiaeth drawiadol o gyfleusterau a phrosiectau economi gylchol yn ystod y digwyddiad. Bydd mynychwyr yn cael cipolwg ar y strategaethau arloesol a'r arferion cynaliadwy sy'n sail i fentrau Sero, gan gyfrannu at weledigaeth ehangach economi gylchol.
Bydd y drafodaeth yn ymestyn i archwilio cyfleoedd ariannu, gan gynnwys y "cyllid sbarduno" unigryw, wedi'i deilwra ar gyfer mentrau economi gylchol yn y Deg Tref, gan roi cyfle i grwpiau cymunedol gael mynediad. Nod y gronfa hon yw meithrin arloesedd a chynaliadwyedd yn ein cymunedau lleol drwy ddarparu hyd at £5,000 y prosiect, fesul Deg Tref.
Ar ôl y cyflwyniadau, bydd mynychwyr yn cael cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb a rhwydweithio wrth gael lluniaeth. Mae hyn yn rhoi cyfle i grwpiau cymunedol ymchwilio i gynigion ceisiadau, ymgysylltu â swyddogion Sero ar brosiectau parhaus, a meithrin sgyrsiau ystyrlon.
Mae'r digwyddiad hwn, a ariennir gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn pwysleisio rôl hanfodol cyfranogiad cymunedol wrth gydweithredu i adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy i gymunedau lleol. Nod yr ymgysylltiad personol hwn yw grymuso arweinwyr cymunedol, gan eu galluogi i lywio cymhlethdodau prosiectau economi gylchol a hyrwyddo eu hymrwymiad i gynaliadwyedd.
Drwy ddod â lleisiau amrywiol ynghyd, mae'r digwyddiad yn ceisio cryfhau'r ymrwymiad cyffredin i gynaliadwyedd amgylcheddol a gwytnwch lleol, gan ysgogi cynnydd tuag at economi gylchol.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:
Ar y daith tuag at economi gylchol, mae'n rhaid i ni gydnabod pŵer ymgysylltu cymunedol. Wrth i ni gynnal Digwyddiad Economi Gylchol y Deg Tref mewn cydweithrediad â Chanolfan Hinsawdd a’r Amgylchedd Sero, nid rhoi sylw i brosiectau’n unig rydym yn ei wneud, ond datblygu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer byw'n gynaliadwy.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â AMGETO@carmarthenshire.gov.uk.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Mawrth, 2024
Amser: 10:00 AM - 12:00 PM
Lleoliad: Sero, Canolfan Hinsawdd a'r Amgylchedd
Cyfeiriad: Uned 4, 15 Stryd Ioan, Caerfyrddin SA31 1QT