Cronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes

185 diwrnod yn ôl

Mae'r Cyngor yn gwahodd busnesau Sir Gaerfyrddin i fanteisio ar y Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Bydd y gronfa yn darparu cymorth cyfalaf i fusnesau tuag at brynu systemau ynni adnewyddadwy ar gyfer eu safleoedd busnes. Daw hyn wrth i Gyngor Sir Caerfyrddin barhau i ymrwymo i ddatblygu economaidd yn ogystal â dod yn awdurdod carbon sero net erbyn 2030. Nod y gronfa yw annog busnesau i fod yn gynaliadwy, gan eu helpu ar eu taith i fod yn sero net.

Mae grantiau rhwng £1,000 a £25,000 ar gael tuag at gost y systemau ynni adnewyddadwy. Mae hyn yn cynnwys Systemau Pŵer, Systemau Gwresogi a Systemau Gwres a Phŵer Cyfunedig.

Mae busnes yn Sir Gaerfyrddin, Talog Country Retreat, wedi elwa ar y Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes ac roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu prynu 18 o baneli solar, gan helpu i leihau eu hôl troed carbon, lleihau biliau ynni a galluogi'r perchnogion i leihau'r tâl a godir ar westeion am wefru ceir trydan.

Dywedodd Cyfarwyddwr Talog Country Retreat:

Mae'r grant wedi ein helpu i leihau ein hôl troed carbon ac rydym wedi lleihau ein gwastraff o ran ynni adnewyddadwy gyda'n storfa fatris. Roedd y broses gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn ddid-dor a chafodd ein holl ymholiadau eu hateb yn brydlon bob amser.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Diwylliant, Hamdden a Thwristiaeth:

Rwy'n annog unrhyw fusnes cymwys i wneud cais am y cyllid hwn. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo i newid hinsawdd, a bydd grantiau fel yr un hwn yn helpu i gyfrannu at y sgwrs ynghylch newid hinsawdd sy'n cael ei chynnal ledled Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Ynni Adnewyddadwy Busnes, ewch i'r wefan.