Codi Cofeb Ryfel i Bwyliaid yn Neuadd y Dref Llanelli
280 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cais gan Gyngor Tref Llanelli am gael codi Cofeb Ryfel i Bwyliaid ar diroedd Neuadd y Dref Llanelli, er cof am y Cyn-filwyr Pwylaidd a wasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y gofeb yn cael ei hariannu a'i chynnal a'i chadw gan sefydliad gwirfoddol.
Ceir cofebau eraill yn Neuadd y Dref Llanelli i gyn-filwyr, gan gynnwys Cymdeithas Awyrlu Brenhinol Burma Star a Chymdeithas Llynges Frenhinol y Gwarchodlu Cymreig.
Wrth gymeradwyo'r cais am godi'r gofeb, dywedodd y Cynghorydd Alun Lenny, yr Aelod Cabinet dros Adnoddau:
Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod miloedd o bobl o Wlad Pwyl wedi bod yn rhan o'r gymuned yn ardal Llanelli ers blynyddoedd lawer, a bod rhan allweddol wedi bod gan beilotiaid y wlad honno ym Mrwydr Prydain.
Roedd 145 o beilotiaid yn y ddau sgwadron o Wlad Pwyl oedd yn hedfan Hurricanes yr RAF, a saethwyd mwy o awyrennau'r gelyn ganddyn nhw nag unrhyw sgwadron arall yn y frwydr dyngedfennol honno yn yr awyr yn erbyn bygythiad y Natsïaid i Brydain. Roedd eu cyfraniad yn hollbwysig.
Mae saith peilot Pwylaidd a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd wedi eu claddu ym Mhen-bre, a thalwyd teyrnged iddyn nhw mewn seremoni emosiynol yn Llanelli ar Ddydd y Cofio y llynedd.
Petai'r gwaethaf yn dod i'r gwaethaf, a bod Wcráin yn colli'r rhyfel presennol, bydd Gwlad Pwyl yn teimlo dan fygythiad gan Rwsia, felly dylai'r gofeb hon i arwyr y gorffennol hefyd fod yn arwydd ein bod ni yn Sir Gâr yn sefyll gyda nhw.”