Y Tîm Tacluso'n Dechrau Gweithrediadau i Dacluso ein Trefi

192 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi Tîm Tacluso, sef menter newydd sy'n ceisio gwella glendid a golwg canol ein trefi.

Mae'r prosiect yn cynnwys rhaglen waith gynhwysfawr, gan gynnwys cael gwared â graffiti a phosteri a osodwyd yn anghyfreithlon, golchi asedau dan wasgedd, glanhau cynteddau, tynnu chwyn, paentio, a gweithgareddau glanhau perthnasol eraill.

Mae'r Tîm Tacluso wedi dechrau arni ym Maes Nott yng nghanol tref Caerfyrddin gan arddangos y gwasanaeth Glanhau Cynteddau, sydd â'r nod o wella gwedd gyffredinol ein mannau trefol.

Mae'r gwasanaeth glanhau cynteddau wedi bod wrthi'n llwyddiannus yn ardaloedd Stryd y Parc a Stryd Stepney yn Llanelli.

Bydd timau tacluso arbenigol yn cyflawni dyletswyddau amrywiol y tu hwnt i weithgareddau glanhau arferol gan dimau glanhau neu briffyrdd i lanhau canol trefi dynodedig yn ddwys.

Bydd y fenter yn dechrau ei gweithrediadau drwy ganolbwyntio ar y tair prif dref, sef Llanelli, Caerfyrddin, a Rhydaman, cyn ehangu ei chyrhaeddiad yn ystod y misoedd nesaf ac yn ehangu i'n 10 tref farchnad ledled Sir Gaerfyrddin.

Mae amserlen y gwaith yma ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Bydd y gwaith yn cyfrannu at nod Cyngor Sir Caerfyrddin o reoli a chynnal asedau seilwaith allweddol sy'n cynnwys priffyrdd, draenio, gwasanaethau stryd ac amwynderau lleol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Bydd y fenter newydd, Tîm Tacluso, yn gwella golwg canol ein trefi, gan gadw Sir Gaerfyrddin yn edrych ar ei gorau ar gyfer yr holl drigolion ac ymwelwyr.
Bydd y tîm yn darparu gwasanaethau effeithiol wrth lanhau a chynnal a chadw canol trefi, gan roi hwb enfawr i gymunedau lleol.”