Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymweld ag Academi Gofal y Cyngor

318 diwrnod yn ôl

Croesawodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS i Neuadd y Sir ddydd Iau, 1 Chwefror, i weld cynnydd Academi Gofal y Cyngor Sir, ers ei lansio yn 2022.

Yn ystod ei hymweliad, clywodd y Dirprwy Weinidog gan yr Aelod Cabinet a swyddogion am y llwybrau dysgu a datblygu a gynigir gan yr Academi Gofal ar gyfer y rhai sy'n edrych am yrfa mewn gofal. Mae'r rhaglen yn caniatáu i'r hyfforddeion gael cipolwg ar wahanol leoliadau mewn gofal oedolion a phlant a dod o hyd i'r llwybr cywir ar eu cyfer.

Bydd hyfforddeion yn cael eu cefnogi i ymgymryd â chymwysterau gofal, a chael eu cefnogi yn y pen draw i ymgymryd â gradd mewn gwaith cymdeithasol neu gymhwyster rheoli yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd.

Gall hyfforddeion yr Academi Gofal hefyd elwa o 10 awr o yrru am ddim i helpu i gael hyfforddeion ar y ffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol: "Roeddem yn falch iawn i groesawu'r Dirprwy Weinidog i Neuadd y Sir i ddangos sut mae'r Academi Gofal yn cynnig cyfleoedd gwych i'r rhai sy'n edrych am yrfa mewn gwaith cymdeithasol neu ofal.

"Mae buddsoddi mewn gwasanaeth lleol, effeithlon sy'n cael ei redeg gan y cyngor, fel Academi Gofal, yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor Sir er mwyn ail-gydbwyso’r farchnad ar draws pob elfen o ofal cymdeithasol oedolion a phlant."

I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Gofal, ewch i'n gwefan Ymuno â'r Academi Gofal (llyw.cymru)